Bob blwyddyn mae Adran Tai y Cyngor yn disgwyl i rhwng 600-700 eiddo ddod yn wag yn ystod y flwyddyn. Mae’r eiddo hyn wedyn yn cael eu neilltuo i Sefydliad Gwaith Llafur Uniongyrchol yr adran ei hun neu i gontractwyr allanol i gwblhau’r gwaith sydd ei angen.
Ar gyfer y flwyddyn galendr hon hyd yn hyn, mae 460 eiddo gwag wedi’u trosglwyddo yn ôl i ni gyda buddsoddiad cyfartalog o 19.5k yr un i’r Swyddfeydd Ystadau Tai yn barod i’w dyrannu i ddeiliaid contract newydd.
Wrth adnewyddu eiddo, rhaid iddynt gadw at Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Nod Safonau Ansawdd Tai Cymru yw gwella ansawdd cartrefi pobl, gan osod targedau newydd i fynd i’r afael â datgarboneiddio ac effeithlonrwydd dŵr.
Fel rhan o gwrdd â’r SATC, mae eiddo gwag yn cael eu hadnewyddu i safon uchel cyn cael eu gosod i ddeiliaid contract newydd.
Mae hyn yn cynnwys carpedi newydd, ceginau ac ystafelloedd ymolchi wedi’u diweddaru, a gwelliannau eraill i sicrhau bod deiliaid contract newydd yn gallu mwynhau cartref diogel, cyfforddus ac o ansawdd uchel.
Yn ddiweddar, ymwelodd Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam, Alwyn Jones, ag un eiddo gwag cyn ei adnewyddu ac mae bellach wedi ymweld ar ôl i’r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau. Dwedodd, “Mae’r gwaith ar yr eiddo yn ardderchog ac mae’n adlewyrchiad mor gadarnhaol ar ein hagwedd at denantiaid, ac ymrwymiad y contractwyr sy’n gweithio i ni. Mae’r gwaith i’r safonau uchaf ac mae’r eiddo y bydd y tenant newydd yn ei gael yn gartref gwirioneddol wych.”
Dwedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Tai, “Mae’r buddsoddiad parhaus yn ein heiddo gwag yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi o ansawdd da i bobl leol a bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru. Mae’n bwysig pan fydd rhywun yn dod yn ddeiliad contract gyda’r adran Dai eu bod yn symud i eiddo sy’n ddiogel, yn gyfforddus ac wedi’i orffen i safon uchel.”
Mae gennym ystod o gontractwyr allanol sy’n cwblhau rhai o’n gwagleoedd.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys gweld eiddo gwag lle roedd gwaith adnewyddu yn cael ei wneud gan CW Builds. Mae’r gwaith wedi’i gwblhau i’r safon y cytunwyd arno, gyda CW Builds hefyd yn cefnogi cyflogaeth leol trwy gyflawni’r prosiect.


