Bydd y siaradwr a’r ymgyrchydd sydd â phrofiad o fod mewn gofal, Sam Gardner, yn ymweld â Wrecsam ym mis Tachwedd i rannu ei daith bersonol bwerus drwy’r system ofal, gan helpu cynulleidfaoedd i ddeall profiadau plant sy’n tyfu i fyny mewn gofal yn well.
Cynhelir Gwersi o’r System Ofal YN FYW – Wrecsam ym Mhrifysgol Wrecsam, Campws Plas Coch ddydd Gwener, 20 Tachwedd 2026 (sgroliwch i lawr am fanylion llawn). Gan dynnu ar ei brofiad bywyd ei hun, mae sgwrs Sam yn archwilio sut y gall bywyd deimlo i blentyn mewn gofal a’r gwahaniaeth y gall gweithredoedd, iaith a pherthnasoedd bob dydd oedolion ei wneud.
Ar ôl tyfu i fyny mewn gofal, a dod yn athro yn ddiweddarach, mae Sam yn cynnig persbectif unigryw ar y rôl y gall oedolion dibynadwy ei chwarae wrth helpu plant i ffynnu. P’un a ydych chi’n athro, rhiant, gofalwr maeth neu aelod o’r gymuned, mae croeso i chi fynychu a dysgu mwy am brofiadau plant sy’n tyfu i fyny mewn gofal.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys stondin wybodaeth Maethu Cymru Wrecsam, lle gall mynychwyr siarad yn uniongyrchol â’r tîm maethu lleol a dysgu mwy am y gwahanol ffyrdd y gallant gefnogi plant a phobl ifanc yn eu cymuned.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, dechreuodd Sam rannu ei brofiad o dyfu i fyny mewn gofal ar TikTok ac Instagram, lle mae wedi adeiladu cynulleidfa gyfunol o 46,000 o ddilynwyr, gyda’i fideos yn cyrraedd cannoedd o filoedd o bobl. Yn ddiweddar, ymddangosodd ar y BBC yn ailuno gyda’i gyn-athro ysgol, a helpodd i siapio ei fywyd.
Trwy adrodd straeon a mewnwelediad ymarferol, mae ei sgyrsiau yn annog cynulleidfaoedd i fyfyrio ar sut y gall eiliadau bach o ddealltwriaeth, sefydlogrwydd a thosturi gael effaith barhaol.
Dywedodd Sam: “Dw i’n ddiolchgar i’r gofalwyr maeth a gefnogodd fi i ddod y person ydw i heddiw a dw i’n gobeithio, trwy rannu fy stori, bod plant sy’n tyfu i fyny mewn gofal yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u deall ac mae’n ysbrydoli eraill i ddod ymlaen i ofal.”
Dywedodd y Cynghorydd Robert Walsh, aelod arweiniol y gwasanaethau plant a theuluoedd: “Dw i’n hapus iawn i groesawu Sam i Wrecsam a byddwn i’n annog unrhyw un sydd â chwestiynau am y system ofal, neu sydd erioed wedi meddwl a allen nhw ofalu am blentyn, i ddod i glywed stori Sam.
“Mae rhieni maeth yn helpu i siapio dyfodol plant a phobl ifanc, mae pob un yn cynnig ei brofiadau bywyd gwerthfawr ei hun. Os ydych chi’n teimlo y gallwch chi gynnig amgylchedd sefydlog a gofalgar i blant a phobl ifanc, dewch aton ni i weld sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd.”
Dywedodd [llefarydd ar ran] Maethu Cymru Wrecsam: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn ymuno â Sam yn Wrecsam. Mae ei brofiad bywyd yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i’r hyn sydd ei angen ar blant a phobl ifanc mewn gofal gan yr oedolion o’u cwmpas.
“Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i bobl ddysgu mwy am faethu, gofyn cwestiynau a deall sut y gallen nhw wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn lleol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd unrhyw un sydd erioed wedi ystyried maethu yn dod i gael sgwrs gyda’n tîm.”
Bydd Maethu Cymru Wrecsam ar gael cyn ac ar ôl y digwyddiad i drafod cyfleoedd maethu ac ateb cwestiynau am gefnogi plant a phobl ifanc lleol.
Manylion y digwyddiad
📅 Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026
🕘 Drysau’n agor: 9am
🎤 Sgwrs: 9.30-11.30am
📍 Prifysgol Wrecsam, Campws Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW
🚗 Parcio am ddim ar gael
🔗 Cadwch eich lle: Tocynnau Gwersi o’r System Ofal YN FYW – Wrecsam, Prifysgol Wrecsam – Campws Plas Coch, Wrecsam | TryBooking United Kingdom
Gall pobl sydd â diddordeb mewn maethu hefyd ymweld â stondin wybodaeth Maethu Cymru Wrecsam yn ystod y digwyddiad i gael rhagor o wybodaeth ac i gael sgwrs anffurfiol â’r tîm.


