Mae ymgyrch flynyddol Recycle Your Electricals ‘Her Fawr y Ceblau’ yn ôl – galwad genedlaethol i weithredu i fynd i’r afael â’r miliynau o geblau ac offer trydanol eraill sy’n eistedd yn segur ar draws cartrefi’r DU.
Mae’r fenter yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff eleni sy’n cael ei gynnal ddydd Mercher, Hydref 14.
I’r lleuad ac yn ôl…
Mae ymchwil gan Recycle Your Electricals yn datgelu bod cartrefi yn y DU yn dal gafael ar ac yn taflu digon o geblau i gyrraedd y lleuad ac yn ôl!
Trwy ailgylchu’r ceblau hyn a hen offer trydanol eraill yn hytrach na dal gafael arnynt, gellir ailddefnyddio’r deunyddiau gwerthfawr, megis copr, sydd y tu mewn i’r offer hyn, a’u hailgylchu i eitemau newydd gan gynnwys ffonau symudol, gliniaduron, watshys clyfar, ynni glân a hyd yn oed offer meddygol.
Oes gennych chi ddrôr llawn dop?
Mae ymchwil Recycle Your Electricals hefyd wedi canfod bod dau o bob pump o gartrefi’r DU (39%) yn dal gafael ar eu hoffer trydanol bach mewn drôr llawn dop – lle cyfrinachol i guddio offer trydanol sydd ddim yn cael eu defnyddio a thechnoleg sydd wedi torri a geir mewn llawer o gartrefi.
Mewn gwirionedd, dywedodd dros chwarter y bobl hyn (28%) eu bod yn teimlo cywilydd, dicter neu rwystredigaeth gan yr holl offer trydanol bach maen nhw’n eu storio yn eu cartrefi. A dydy un o bob pump o bobl ddim yn ailgylchu eu hoffer trydanol oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod sut i wneud hynny (21%) neu mae’n rhy anodd (21%).
Gyda miliynau o geblau yn achosi llanast yng nghartrefi’r DU, mae Recycle Your Electricals wedi cyhoeddi Canllaw Ceblau defnyddiol. Gyda 35 o’r ceblau mwyaf cyffredin, mae’r canllaw yn rhannu delweddau hawdd eu defnyddio i baru ceblau â’u hoffer trydanol gwreiddiol. Os nad yw’r offer trydanol neu’r ceblau yn gweithio mwyach neu nad ydych chi eu hangen mwyach, rhowch eich ceblau mewn bag ac ailgylchwch nhw.
Ailgylchu eitemau trydanol yn eich canolfan ailgylchu leol
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Rydyn ni’n hapus i gefnogi Her Fawr y Ceblau 2026, ac rydyn ni’n annog ein trigolion i gymryd rhan trwy ailgylchu eu ceblau diangen. Mae gan bob un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam fanciau yn benodol ar gyfer eitemau trydanol felly gallwch ailgylchu’r eitemau hyn yn ystod eich ymweliad nesaf.
“Os oes gennych chi eitemau trydanol mewn cyflwr da, gallwch chi eu rhoi i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos. Gallwch chi roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu – siaradwch ag un o’r gweision a fydd yn dangos i chi ble gallwch chi adael yr eitemau rydych chi am eu rhoi.”
Dod o hyd i bwynt ailgylchu
Gallwch wirio lleolwr cod post Recycle Your Electricals i ddod o hyd i’ch pwynt ailgylchu agosaf. Rhowch eich cod post i ddod o hyd i’ch pwynt trwsio, rhoi neu ailgylchu agosaf, gyda dros 30,000 o leoliadau ledled y DU wedi’u rhestru.
Dod o hyd i gaffi trwsio yn agos atoch chi
Oes gennych chi unrhyw eitemau sydd ddim yn gweithio ond y gellid eu trwsio? Os felly, beth am ddod o hyd i gaffi trwsio yn eich ardal chi!
Benthyca a Thrwsio
Mae Benthyca a Thrwsio, sydd wedi’i leoli yn Tŷ Pawb, yn cynnal caffis trwsio, gweithdai uwchgylchu a digwyddiadau eraill i helpu i atal gwastraff. Cynhelir y caffi trwsio nesaf ddydd Sadwrn, 17 Hydref, 11am-2.30pm.
Tra byddwch chi yno, gallwch chi hefyd edrych ar yr eitemau gwych y gallwch chi eu benthyg. O beiriannau gwnïo i offer gwersylla, tŵls i gyflenwadau parti, mae yna ddigon o eitemau defnyddiol y gallwch chi eu llogi am gost fach (o’i gymharu â’r hyn y byddech chi’n ei dalu i brynu’r eitem newydd eich hun).
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn tudalen Facebook Benthyca a Thrwsio.
Caffi Trwsio Wrecsam
Bydd Caffi Trwsio Wrecsam yn cynnal digwyddiad ddydd Sadwrn, Tachwedd 14, 11am-1pm yng Nghanolfan Parc Caia, Ffordd y Tywysog Siarl, LL13 8TH.
Galwch heibio gyda’ch eitem sydd wedi torri neu wedi’i difrodi, a bydd y trwswyr gwirfoddol yn ceisio ei hatgyweirio am ddim. Gallwch fwynhau paned o de neu goffi, a sgwrsio â’ch cymdogion wrth i chi aros.
Gallwch hefyd weld dyddiadau digwyddiadau yn y dyfodol ar wefan Caffi Trwsio Cymru, neu dudalen Facebook Caffi Trwsio Wrecsam y gallwch chi ei dilyn hefyd i gael y newyddion diweddaraf.
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch.


