Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 20, 2026 11:33 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Meet the Supertrees event
RHANNU

Ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd, mae Coed Cadw fel aelodau balch o Bartneriaeth Coedwig Wrecsam yn ymuno â Llyfrgell Gwersyllt i gynnal digwyddiad addysgol am ddim i’r teulu am bŵer coed.

Bydd ‘Meet the Supertrees’, a gynhelir ddydd Mercher 28 Hydref rhwng 1 a 4pm, yn ddiwrnod o weithgareddau yn llawn hwyl, crefftau, ac addysgu pobl am uwchbwerau coed.

Gall y mynychwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys creu hudlathau, adeiladu bocsys adar, a llwybr cyfeiriannu natur. Bydd hyd yn oed cyfle i ennill coeden am ddim!

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac nid oes angen cadw lle.  Dim ond troi i fyny ar y diwrnod. Er bod y digwyddiad am ddim, mae croeso i chi roi rhodd i gefnogi’r gwaith o reoli’r coetiroedd.

Fel cyd-aelodau Partneriaeth Coedwig Wrecsam, rydym yn ychwanegu ein cefnogaeth i’r digwyddiad. Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae hwn yn addo bod yn ddigwyddiad teuluol cadarnhaol, llawn hwyl, sy’n dangos pwysigrwydd coed i’n hamgylchedd. Mae croeso i bobl o bob oed ddod draw am ddim a darganfod pa mor arbennig yw coed mewn gwirionedd.”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd:  “Mae Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae ein llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth arwain cymunedau tuag at wybodaeth ddibynadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth o amgylch natur.  Os ydych chi’n rhydd, dewch draw i Lyfrgell Gwersyllt i gefnogi’r digwyddiad hwn.”

Meet the Supertrees

Dydd Mercher 28 Hydref, 1-4pm

Canolfan Adnoddau Gwersyllt, Ail Rodfa, Gwersyllt, Wrecsam LL11 4ED

Nid oes angen cadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn sydd am ddim – dewch draw ar y diwrnod

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau – Newyddion Cyngor Wrecsam

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:amgylchedddigwyddiadauenvironmentevents
Rhannu
Erthygl flaenorol Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Erthygl nesaf Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu
Y cyngor
Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lle Digwyddiadau Fideo
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English