Mae cymuned leol Rhosllannerchrugog yn dathlu ar ôl derbyn dros £800,000 o gyllid i drawsnewid Stryt y Farchnad a chefnogi Theatr Stiwt yn yr ardal.
Daw’r union ffigur o £815,400 o’r Gronfa Twf Lleol, sydd wedi’i chynllunio i ysgogi twf mewn tri maes allweddol sy’n cynnwys buddsoddi mewn seilwaith, cymorth busnes a datblygu sgiliau. Mae hyn yn cael ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU a’i reoli yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r grant, bydd £236,000 yn mynd tuag at gefnogi ymdrechion Theatr Stiwt a fydd hefyd yn cefnogi cais dinas diwylliant 2029 Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol dros Gyllid a Rheoli Asedau, “Mae’n newyddion gwych i’r gymuned leol yn Rhosllannerchrugog.
“Rwy’n gobeithio y bydd y swm sylweddol hwn o gyllid yn paratoi’r ffordd ar gyfer gwelliannau hirdymor i’r cymunedau hyn, yn cefnogi Theatr Stiwt ac wrth gwrs cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 yn y broses.”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam, “mae’n debyg mai hwn yw un o’r symiau mwyaf sylweddol o gyllid y mae’r ardal wedi’i dderbyn erioed.
“Rwy’n falch iawn bod y cyllid hwn wedi dod i’r ardal ac y bydd pobl leol yn elwa o’r manteision yn y gymuned.”


