Penderfynodd Kylie a’i gŵr Pete ddechrau eu teulu trwy fabwysiadu, gan ddilyn yn ôl troed nain Kylie a fabwysiadodd fam Kylie.
“O’n i’n ofni’r broses, yr hyfforddiant, a’r siarad am fy nhrawma blaenorol o’n i wedi’i oresgyn. Do’n i ddim eisiau codi unrhyw beth eto, ond o’n i jyst yn glynu wrth y ffaith fy mod i’n mynd i fod yn fam ar ddiwedd hyn i gyd. Doedd o ddim mor ddrwg ag o’n i wedi’i adeiladu yn fy mhen, ac fe wnes i sortio pob ffurflen neu gwestiwn ar unwaith, o’n i eisiau ei wneud o cyn gynted â phosib.”
Flwyddyn ar ôl yr alwad ffôn gyntaf i Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, fe wnaethon nhw groesawu eu merch i’w cartref.
“Dw i’n cofio’r eiliad y galwodd hi fi yn mam am y tro cyntaf. Cymerodd hi tua chwe wythnos. Roedden ni’n chwarae bi-bo a dywedais i, “Ble mae mam?” Ac fe wnaeth hi jyst dweud o, “Mam!” Roedd o’n anhygoel; na i byth anghofio’r foment honno.”
Ddwy flynedd ar ôl i’w merch ddod adref, dechreuodd Kylie a Pete y broses unwaith eto i fabwysiadu bachgen bach. Dywedodd Kylie fod eu merch “mor gyffrous” i gael brawd bach.
“Maen nhw fel unrhyw frawd a chwaer arall, maen nhw’n chwarae gyda’i gilydd, maen nhw’n caru ei gilydd, maen nhw’n ymladd, maen nhw’n casáu ei gilydd!”
Parhaodd: “Gall pethau fod yn anodd, yn ystod ac ar ôl mabwysiadu, byddwch chi’n wynebu heriau, ond rydych chi’n cyfarfod pobl ar hyd y ffordd sydd hefyd ar daith debyg i chi, mabwysiadwyr eraill a’ch gweithwyr cymdeithasol, pobl sydd yno i siarad â nhw ac am bethau heblaw mabwysiadu hefyd. Rydyn ni’n teimlo mor lwcus i gael ein plant. Mae mor werthfawr, byddwn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu i wneud hynny, gwneud yr alwad ffôn honno, fyddwch chi ddim yn difaru.”
Cysylltwch â ni
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn hyrwyddo a chefnogi arfer mabwysiadu gorau trwy Gymru. I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu a’r prosesau dan sylw, llenwch y ffurflen Cysylltwch â Ni ar-lein neu gallwch ffonio 0800 085 0774 / 01978 295311.
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da – Newyddion Cyngor Wrecsam


