Mae Wrecsam yn dathlu ar ôl cyflawni gwobr Aur yn y categori Dinas yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026.
Mae’r wobr hon yn cydnabod ymroddiad a gwaith caled timau’r Cyngor, sefydliadau cymunedol a gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i wneud Wrecsam yn lle gwyrddach a mwy deniadol i fyw, gweithio ac ymweld â hi.
Fe wnaeth beirniaid Cymru yn ei Blodau ymweld â Wrecsam ar 21 Gorffennaf, gan gymryd rhan mewn taith pedair awr a hanner yn arddangos mentrau amgylcheddol, mannau gwyrdd a phrosiectau cymunedol ledled yr ardal.
Dechreuodd yr ymweliad yng nghanolfan Tŷ Mawr, lle cyflwynwyd y beirniaid i brosiectau a gefnogir drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, gan gynnwys gwesty pryfed Wrecsam, cyn clywed am y gwaith a wnaed drwy gydol y flwyddyn.
Roedd y daith hefyd yn cynnwys ymweliadau â Pherllan Pen-y-cae, Meithrinfa Pentrebychan a Gardd Furiog Erlas, cyn mynd i ganol dinas Wrecsam i weld yr arddangosfeydd blodau.
Ar hyd y ffordd, fe wnaeth y beirniaid gyfarfod â Swyddog Coedwigaeth Cyngor Wrecsam, hyfforddeion ac aelodau o Gasglwyr Sbwriel Wrecsam, gan dynnu sylw at yr amrywiaeth o bobl a sefydliadau sy’n cyfrannu at welliannau amgylcheddol yr ardal.
Roedd llwyddiant Wrecsam yn ymestyn y tu hwnt i’r categori Dinas, gyda sawl grŵp a sefydliad lleol yn derbyn cydnabyddiaeth drwy’r gwobrau Eich Cymdogaeth Chi.
Ymhlith y rhai a gafodd gydnabyddiaeth oedd Perllan Pen-y-cae, Casglwyr Sbwriel Wrecsam, Amgueddfa Cefn Mawr, Cyngor Cymuned Cefn Mawr a CBC Woodswork, gan dynnu sylw at y rôl bwysig mae cymunedau lleol yn ei chwarae wrth ofalu am fannau gwyrdd ar draws y fwrdeistref sirol a’u gwella.
Dywedodd Peter Barton-Price, Cadeirydd Cymru yn ei Blodau, “Roedd Cymru yn ei Blodau yn falch iawn o ddyfarnu Gwobr Aur i Wrecsam yn ei Blodau unwaith eto a theitl Enillydd y Categori Dinas 2026.
Mae’r wobr yn cydnabod y bartneriaeth ragorol rhwng cymunedau lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan ddangos sut y gall cydweithio wella’r amgylchedd, hyrwyddo bioamrywiaeth a chyflawni rhagoriaeth arddwriaethol ledled y ddinas.
Roedd amrywiaeth y prosiectau yn rhagorol, ac roedd yr ymdrechion gwirfoddol yn anhygoel.”
Mae gwobr Aur Wrecsam yn adlewyrchu ymdrechion cyfunol staff y Cyngor, grwpiau lleol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i ofalu am fannau gwyrdd a chefnogi gwelliannau amgylcheddol ar draws y fwrdeistref sirol.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, “Mae cyflawni’r wobr aur yng nghategori Dinas Cymru yn ei Blodau yn gyflawniad gwych i Wrecsam ac mae’n rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn hynod falch ohono.
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein timau yn y Cyngor, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio trwy gydol y flwyddyn i wella a chynnal ein mannau gwyrdd.
Mae’n braf gweld cymaint o sefydliadau lleol yn cael eu cydnabod am eu hymdrechion hefyd. Mae eu hymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau, a hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan am helpu i wneud Wrecsam yn lle gwyrddach a mwy croesawgar i drigolion ac ymwelwyr.”


