Mae trigolion ledled Wrecsam yn cael eu hannog i barhau i fod yn wyliadwrus am fasnachwyr twyllodrus a allai geisio camfanteisio ar berchnogion tai yn dilyn y tywydd garw diweddar yn gysylltiedig â Storm Austen.
Mae Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio trigolion y gallai unigolion diegwyddor dargedu cartrefi, yn enwedig y rhai lle gallai toeau, gwteri, simneiau neu rannau eraill o eiddo fod wedi cael eu heffeithio gan y storm. Mae masnachwyr twyllodrus yn aml yn galw heibio i gartrefi‘n ddiwahoddiad gan honni eu bod wedi sylwi ar ddifrod a gallant roi pwysau ar berchnogion tai i gytuno i wneud gwaith atgyweirio ar unwaith sy’n ddiangen, o ansawdd gwael, neu wedi’u gorbrisio.
Mae’r masnachwyr hyn yn aml yn defnyddio tactegau gwerthu pwysau uchel, gan awgrymu bod angen camau brys i atal difrod pellach. Mewn rhai achosion, efallai y bydd deiliaid tai yn cael gwybod bod to yn anniogel neu fod yn rhaid gwneud gwaith atgyweirio ar unwaith. Dylai trigolion fod yn ymwybodol y bydd contractwyr cyfreithlon yn deall yr angen i gwsmeriaid geisio cyngor annibynnol ac ni fyddant yn pwyso arnynt i wneud penderfyniadau yn y fan a’r lle.
Cyngor allweddol i ddefnyddwyr:
- Byddwch yn ofalus o unrhyw un sy’n galw heibio i’ch drws yn ddiwahoddiad gan gynnig gwaith toi neu adeiladu.
- Peidiwch â theimlo dan bwysau i gytuno i waith yn syth.
- Ceisiwch o leiaf ddau neu dri dyfynbris gan fasnachwyr ag enw da cyn gwneud penderfyniad.
- Gofynnwch am eirdaon a gwiriwch adolygiadau ar-lein lle bo hynny’n bosibl.
- Peidiwch byth â throsglwyddo symiau mawr o arian ymlaen llaw.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael dyfynbrisiau ysgrifenedig a manylion unrhyw waith arfaethedig.
Cymerwch amser i ystyried eich opsiynau a thrafodwch unrhyw bryderon gyda’ch teulu, ffrindiau, neu gynghorwyr dibynadwy.
Cysylltwch â’ch yswiriwr cyn comisiynu gwaith atgyweirio os oes amheuaeth o ddifrod yn dilyn storm.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol a Diogelu’r Cyhoedd:
“Yn anffodus, mae cyfnodau ar ôl tywydd garw yn aml yn cyflwyno cyfleoedd i fasnachwyr twyllodrus fanteisio ar berchnogion tai pryderus. Bydden ni’n annog trigolion i beidio â rhuthro i wneud penderfyniadau ar stepen eu drws.
“Os bydd rhywun yn galw heibio’n ddiwahoddiad ac yn cynnig gwaith atgyweirio toeau neu’n honni bod angen gwaith ar frys, dylech chi gymryd cam yn ôl, ceisio cyngor annibynnol, a chael dyfynbrisiau gan fusnesau lleol ag enw da cyn cytuno i unrhyw beth.
Ni fydd masnachwyr cyfreithlon yn gwrthwynebu i chi gael ail farn.
“Os yw masnachwr yn rhoi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad ar unwaith, dylid trin hynny fel arwydd o rybudd.”
Dylid cymryd gofal arbennig gan drigolion hŷn neu agored i niwed a allai deimlo dan bwysau gan dactegau gwerthu parhaus. Anogir aelodau o’r teulu, ffrindiau a chymdogion i gadw llygad ar y rhai a allai fod mewn mwy o berygl o ddod yn ddioddefwyr troseddau stepen drws.
Dylai unrhyw un sydd â phryderon am fasnachwr neu sy’n credu eu bod wedi cael eu targedu gan fasnachwr twyllodrus roi gwybod am y mater i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, a fydd yn cyfeirio achosion priodol at Safonau Masnach.


