Bydd Wrecswyl – gŵyl gerddoriaeth a diwylliant Gymraeg newydd sbon – yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Tŷ Pawb, Wrecsam, ar y 7fed o Dachwedd.
Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei drefnu gan bartneriaeth o sefydliadau lleol, yn dod â cherddoriaeth fyw, llenyddiaeth, gweithgareddau hwyliog i deuluoedd a chyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg ynghyd, mewn dathliad bywiog o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y ddinas.
Yn ogystal â’r digwyddiad yn Tŷ Pawb, bydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Wrecsam ac yng Ngholeg Cambria – gweler yr amserlen lawn isod.
Daw’r digwyddiad ar adeg gyffrous i Wrecsam, sydd yn y ras i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029.
Gŵyl am ddim lle mae croeso i bawb
Dywedodd Stephen Jones, Swyddog Strategol y Gymraeg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Wrecswyl am y tro cyntaf, gyda’r nod o adeiladu ar etifeddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd yn lle i bobl ddod at ei gilydd i ddefnyddio, clywed a mwynhau’r Gymraeg mewn awyrgylch croesawgar – boed yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr, neu’n bobl sy’n awyddus i brofi diwylliant Cymraeg lleol.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’n wych gweld y digwyddiad cyntaf erioed o Wrecswyl yn cael ei gynnal yn Tŷ Pawb ar 7 Tachwedd. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn digwyddiadau diwylliannol Cymraeg – waeth beth yw eu gallu i siarad yr iaith – i ddod draw a mwynhau’r gorau sydd gan y diwrnod i’w gynnig.”
“Mae’r Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymreig yn rhan bwysig o’n cais am Ddinas Diwylliant y DU ac mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o weithgareddau i gefnogi’r cais.”
Mae’r digwyddiad wedi bod yn bosibl diolch i Lywodraeth Cymru, Coleg Cambria, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Dysgu Cymraeg, Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Y Sîn ar y Ffin, FOCUS Wales, Prifysgol Wrecsam, a Dydd Miwsig Cymru.
Amserlen Lawn
(Sgroliwch i lawr i weld yr amserlen ar ffurf testun)

Amserlen llawn
10am–4pm
Celf a chrefft gyda Dwylo Bler
10am-3pm
Cerddoriaeth fyw a chorau yn yr Ardal Fwyd a’r Gofod Hyblyg:
10am – Wrexham All Voices Choir
10.15am – Ysgol Bro Alun
10.30am – Ysgol Maelor
10.45am – Coleg Cambria
11am – Ysgol Morgan Llwyd
11.30am – Osian Powell Jones
12pm – Dynamic Singing Sensations
12.30pm – Cor Daw
1pm – Cor y Pentan
1.30pm – Igloo Hearts
1.45pm – Ysgol Plas Coch
2pm – Lleisiau Ceiriog
2.30pm – Lleisiau Clywedog
10am
Tylino Babanod hefo Cymraeg i Blant
11am
Sioe Hud hefo Professor Llusern
12pm
Bîtbocsio gyda Mr Phormula
1pm
Sesiwn Stori a Chân gyda Magi Ann
1.30pm
Stori a Gweithdy ‘Dewin y Nos’ gyda Theatr Clwyd
2.30pm
Disgo Tawel gyda Menter Iaith
3pm
Bîtbocsio gyda Mr Phormula
4pm
Twmpath Teulu – Dawnsio Gwerin Cymreig gyda Dawnswyr Delyn
NOSON CERDDORIAETH FYW (gyda Focus Wales)
5.30pm-10.30pm
Andy Hickie
Tara Bandito
Morgan Elwy ar Band Hudol
Papur Wal
Band Pres Llareggub
Hefyd yn Wrecsam
9.30am-12.30am
Canolfan CAMU Coleg Cambria
Dathlu Dysgu Cymraeg
Gweithdai ac adloniant i ddysgwyr Cymraeg
2pm
Llyfrgell Wrecsam
Sesiwn holi ac ateb gydag Elin Undeg Williams ac Iestyn Tyne
3pm
Llyfrgell Wrecsam
Ysgrifennu Creadigol gyda chyfoedion Tesni


