Mae cynlluniau i ddiweddaru ac ymestyn Canolfan Adnoddau Acton yn symud ymlaen, a gofynnir i aelodau o’r cyhoedd helpu i lunio’r manylion.
Bydd y cynlluniau, a gadarnhawyd yn gynharach yr haf hwn yn dilyn ymgysylltu â grwpiau lleol, cynghorwyr a thrigolion, yn cael eu gweithredu mewn dau gam.
- Yn ystod y cam cyntaf bydd Cyngor Wrecsam yn adleoli ei wasanaeth dydd i bobl ag anghenion cymhleth o Ganolfan Cunliffe yn Rhos-ddu i’r ganolfan adnoddau yn Acton.
- Yn ystod yr ail gam bydd adeilad y ganolfan adnoddau yn cael ei ymestyn i ddarparu ar gyfer mwy o grwpiau a gweithgareddau cymunedol.
Bydd gwaith adeiladu i foderneiddio ac addasu rhannau o’r adeilad yn barod ar gyfer y gwasanaeth dydd yn dechrau cyn bo hir (cam un).
Mae’r cyngor hefyd wedi lansio arolwg fel y gall pobl helpu i lywio cam dau, a deall mwy am y mathau o weithgareddau a chyfleusterau y mae pobl eisiau eu gweld yn y ganolfan.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni a bydd gwaith adeiladu yn dechrau cyn bo hir, yn barod i’r gwasanaeth dydd symud i mewn.
“Mae cynlluniau ar gyfer cam dau, lle bydd estyniad yn cael ei adeiladu i helpu i ddarparu ar gyfer defnydd cymunedol, hefyd yn dod ymlaen. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i gael mwy o safbwyntiau fel y gallwn wneud yn siŵr bod y dyluniadau yn diwallu anghenion y gymuned.
“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr adeilad yn cynnig y cyfleusterau cywir ar gyfer y mathau o weithgareddau y mae pobl eisiau eu gweld.
“Os ydych chi’n byw yn Acton neu’r ardal gyfagos, neu os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol sy’n defnyddio’r ganolfan neu efallai eisiau ei defnyddio yn y dyfodol, a fyddech gystal â chymryd pum munud i lenwi ein harolwg. Gallai eich barn wneud gwahaniaeth mawr a helpu i sicrhau ein bod ni’n cael y manylion yn iawn.”


