Mae Cysylltu â Gwaith yn cynnig cymorth personol i helpu pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd i ddod o hyd i waith ac aros ynddo…
Mae rhaglen newydd sy’n cynnig cymorth cyflogaeth wedi’i phersonoli i bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd a’r rhai sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth wedi lansio yn Wrecsam.
Mae Cysylltu â Gwaith yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU sy’n cynnig cymorth un-i-un gwirfoddol am ddim i helpu pobl i oresgyn rhwystrau i ddod o hyd i waith, dechrau gwaith ac aros mewn gwaith.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn Wrecsam gan Strategaeth Dinas y Rhyl (SDRh), menter gymdeithasol yng Ngogledd Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam.
Mae cymorth wedi’i deilwra i bob unigolyn, gan eu helpu i nodi eu nodau cyflogaeth, chwilio am gyfleoedd addas, a chael mynediad i’r cymorth cywir i symud i mewn i waith neu aros ynddo.
Gall hyn gynnwys gweithio gyda chyflogwyr i edrych ar addasiadau rhesymol a rhoi cymorth parhaus unwaith y bydd rhywun yn dechrau swydd.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Gall pobl ag anableddau, cyflyrau iechyd neu anghenion cymhleth wynebu rhwystrau ychwanegol wrth chwilio am waith neu geisio aros mewn gwaith, ond rydym am helpu i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gyflawni eu huchelgeisiau a gwireddu eu potensial.
“Rydym yn falch o weld bod Cysylltu â Gwaith yn cael ei lansio yn Wrecsam. Bydd y cymorth personol a gynigir drwy SDRh yn helpu preswylwyr i gael mynediad at gyfleoedd sy’n iawn iddyn nhw a’u cefnogi tuag at gyflogaeth gynaliadwy.”
Dywedodd Alison Thomas, Prif Weithredwr SDRh: “Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Wrecsam i gyflwyno’r rhaglen Cysylltu â Gwaith.
“Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle cyffrous iawn i sicrhau bod ystod lawn ac amrywiol o dalent leol yn cael ei chynnwys yn nhwf a datblygiad economaidd yr ardal.
“Mae ein cefnogaeth o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y person yn helpu i chwalu rhwystrau a chreu cysylltiadau cadarnhaol ar draws cymuned o gyflogwyr cefnogol, cynhwysol.”
I ddysgu mwy am Cysylltu â Gwaith yn Wrecsam, neu i wneud ymholiad, ewch i dudalen we Cysylltu â Gwaith y Cyngor.


