Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Costa Coffee yn noddi coeden Nadolig eleni yn Sgwâr y Frenhines
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Costa Coffee yn noddi coeden Nadolig eleni yn Sgwâr y Frenhines
Pobl a lleY cyngor

Costa Coffee yn noddi coeden Nadolig eleni yn Sgwâr y Frenhines

Diweddarwyd diwethaf: November 17, 2026 3:25 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Costa Coffee yn noddi coeden Nadolig eleni yn Sgwâr y Frenhines
RHANNU

Mae coeden Nadolig Wrecsam wedi cael lle blaenllaw ar Sgwâr y Frenhines, gan ddod â rhywfaint o hwyl Nadoligaidd i ganol y ddinas.

Cafodd y goeden ei goleuo’n swyddogol ddydd Sadwrn 14 Tachwedd, fel rhan o ddigwyddiad Cynnau Goleuadau Nadolig Wrecsam, gan nodi dechrau dathliadau’r ŵyl yn y ddinas.

Mae coeden eleni wedi’i noddi’n garedig gan Costa Coffee Wrecsam, a hoffen ni ddiolch yn fawr iddyn nhw am eu cefnogaeth i helpu i ddod â’r traddodiad Nadolig annwyl iawn i ganol y ddinas.

Dywedodd Rob Holmes, Rheolwr Ardal Costa Coffee yn Wrecsam, “Mae’r Nadolig yn amser arbennig i gymunedau, ac rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi Coeden Nadolig Wrecsam eleni.

“Mae’n gyfle gwych i bobl leol ddod ynghyd, mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd, a chreu atgofion parhaol gyda theulu a ffrindiau.

“Yn Costa Coffee, rydyn ni’n falch o fod yn rhan o gymunedau ledled Wrecsam, ac mae cefnogi digwyddiadau fel hyn yn un ffordd y gallwn ni helpu i ddod â phobl ynghyd yn ystod tymor yr ŵyl.

“Edrychwn ymlaen at weld y gymuned leol yn dathlu ac yn gwneud y gorau o bopeth sydd gan y Nadolig yn Wrecsam i’w gynnig.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, “Mae’r goeden Nadolig hon bob amser yn olygfa i’w chroesawu yng nghanol Wrecsam ac mae’n hyfryd ei gweld yn ôl ar Sgwâr y Frenhines i bawb ei mwynhau.

“Hoffwn i ddiolch i Costa Coffee Wrecsam am eu nawdd hael ac am helpu i wneud i ganol y ddinas deimlo’n Nadoligaidd ac yn groesawgar i drigolion ac ymwelwyr.

“Mae’n wych gweld busnesau’n cymryd rhan ac yn cefnogi rhywbeth sy’n dod â’n cymuned ynghyd ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, “Mae’r goeden Nadolig yn edrych yn wych ac yn ychwanegu’n fawr at yr awyrgylch Nadoligaidd ar Sgwâr y Frenhines.

“Mae’r Nadolig yn adeg bwysig o’r flwyddyn i’n busnesau yng nghanol y ddinas, ac rydw i’n annog pawb i wneud y gorau o’r hyn sydd gan Wrecsam i’w gynnig dros yr wythnosau nesaf.

“P’un a ydych chi’n ymweld â siopau, yn archwilio’r marchnadoedd neu’n mwynhau danteithion Nadoligaidd, mae digon o resymau i ddod i ganol y ddinas.

“Hoffwn i ddiolch yn fawr i Costa Coffee Wrecsam am eu cefnogaeth i wneud coeden eleni’n bosibl.”

Wrth i Wrecsam barhau â’i hymgais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029, mae dathliadau fel Cynnau’r Goleuadau Nadolig yn tynnu sylw at yr ysbryd cymunedol a’r ymdeimlad o falchder sy’n gwneud y ddinas yn arbennig, gan ddod â thrigolion, busnesau ac ymwelwyr ynghyd i fwynhau popeth sydd gan Wrecsam i’w gynnig.

Gellir dod o hyd i’r goeden Nadolig ar Sgwâr y Frenhines, dim ond tafliad carreg o siopau a marchnadoedd Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol Homelink at 50 Pen-blwydd Hapus Cyswllt Cartref!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Homelink at 50
Pen-blwydd Hapus Cyswllt Cartref!
Y cyngor Fideo Pobl a lle
November 17, 2026
Bws
Parcio a theithio – byddwch yn siŵr o sylwi arno!
Y cyngor Pobl a lle
November 17, 2026
Mae'n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
Mae’n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
Digwyddiadau Y cyngor
November 17, 2026
People working in an office
Lansio rhaglen cymorth cyflogaeth newydd yn Wrecsam
Y cyngor Busnes ac addysg
November 16, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las
Y cyngor

Ni fydd creulondeb at fywyd gwyllt yn cael ei oddef ym Mharc Stryt Las

November 16, 2026
Foster carers Del and Gary from Wrexham
Y cyngorPobl a lle

Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal

November 12, 2026
Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)

November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
DigwyddiadauPobl a lle

Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!

November 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English