Mae Itec Wrecsam wedi cyflwyno ystod eang o gyrsiau i gefnogi a gwella eich sgiliau yn y gweithle.
A sbïwch ar hyn. Os ydych chi’n gweithio isafswm o 16 awr yr wythnos, mae’r cyrsiau’n cael eu cyllido’n llawn.
Felly pam aros?
Dechreuwch nawr!
Mae’r cyrsiau yn cynnwys Busnes a Gweinyddu (lefelau 2 a 3), TG (lefelau 2 a 3 yn cynnwys ECDL), Gwasanaeth Cwsmeriaid (lefelau 2 a 3), Cyngor a Chyfarwyddyd (lefelau 3 a 4), Arwain Tîm (lefel 2) a Rheoli (lefelau 3 a 4).
Mae cyfres cymwysterau Sgiliau Hanfodol wedi eu selio ar rifedd, cyfathrebu a llythrennedd digidol, ac maent yn cwmpasu’r rhan fwyaf o swyddi ac ar gael i ddechrau nawr gyda chymorth gan Itec Wrecsam.
Os yw unrhyw un o’r rhain yn apelio atoch chi, cysylltwch â ni…
Felly, os ydych chi’n Gynorthwyydd Personol, cynghorydd gwasanaeth cwsmeriaid, technegydd gwe neu swyddog cefnogi, mae rhywbeth i chi.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at Itec Wrecsam neu ffoniwch 01978 367100.
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL