Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Edrych ymlaen am farbeciw Gŵyl y Banc? Gwnewch yn siŵr mae’ch bwyd yn saff!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pontcysyllte aqueduct
Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle
Theatr Stiwt
Ysgolion Wrecsam yn ymuno: Cyngerdd codi arian ar gyfer apel Eisteddfod Genedlaethol 2025!
Arall
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
food supply chain
Cwmni Wrecsam yn gyrru twf yng nghadwyn cyflenwi bwyd Cymru
Busnes ac addysg
funding
Cynllun grant newydd ar gael i fusnesau Wrecsam – gwnewch gais nawr!
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Edrych ymlaen am farbeciw Gŵyl y Banc? Gwnewch yn siŵr mae’ch bwyd yn saff!
Pobl a lle

Edrych ymlaen am farbeciw Gŵyl y Banc? Gwnewch yn siŵr mae’ch bwyd yn saff!

Diweddarwyd diwethaf: 2019/08/22 at 9:18 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Edrych ymlaen am farbeciw Gŵyl y Banc? Gwnewch yn siŵr mae’ch bwyd yn saff!
RHANNU

Mae gwenwyn bwyd yn beth diflas dros ben.

Cynnwys
1. Coginiwch eich bwyd trwodd2. Cadwch fwydydd amrwd ar wahân i fwyd wedi’i goginio (dydyn nhw ddim yn hoffi ei gilydd)3. Cadwch eich bwyd ar y tymheredd cywir4. Golchwch eich dwylo (er mwyn bod yn giamstar ar drin bwyd yn lân)

Mae’n ffaith fod achosion o wenwyn bwyd yn cynyddu yn ystod yr haf, a’r poethaf yw’r tywydd y mwyaf o bobl sy’n tueddu i fynd yn sâl.

Felly i’ch helpu i aros yn ddiogel, dyma bedwar cyngor syml i chi yn seiliedig ar gyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r GIG…

1. Coginiwch eich bwyd trwodd

Coginiwch eich bwyd yn drylwyr – yn arbennig eich cig. Gofalwch ei fod yn chwilboeth y tu mewn a’i fod wedi coginio trwodd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Gallai unrhyw gig pinc neu suddion fod yn lloches i germau a gallai fod yn docyn unffordd i ddiflastod gwenwyn bwyd. Ych a fi.

Yn y pen draw, mae germau’n cael eu lladd os yw’r bwyd wedi’i goginio’n iawn.

2. Cadwch fwydydd amrwd ar wahân i fwyd wedi’i goginio (dydyn nhw ddim yn hoffi ei gilydd)

Mae’n bwysig cadw bwyd heb ei goginio oddi wrth fwyd sy’n barod i’w fwyta (fel cynnyrch llaeth) i atal traws-heintio.

Mae’n syniad da gorchuddio cig amrwd bob amser a’i roi yng ngwaelod yr oergell.

Peidiwch â defnyddio’r un bwrdd torri neu gyllell i dorri bwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

3. Cadwch eich bwyd ar y tymheredd cywir

Dylid cadw bwyd sydd angen bod yn oer yn yr oergell. Mae’n werth gwirio a yw’ch oergell yn rhedeg ar y tymheredd cywir hefyd (o dan 5C).

Os ydych yn mynd am bicnic neu’n mynd â phecyn cinio i rywle, dylech ei gadw yn yr oergell tan y funud olaf a defnyddio bag oer i gario’r bwyd pan fyddwch yn mynd allan.

4. Golchwch eich dwylo (er mwyn bod yn giamstar ar drin bwyd yn lân)

Yn olaf, ond nid y lleiaf, dylech gadw’ch dwylo’n lân bob amser… a’u golchi’n drylwyr cyn ac ar ôl trin bwyd.

Os ydych yn paratoi cig heb ei goginio, golchwch eich dwylo yn lân cyn i chi gyffwrdd ag unrhyw beth arall… neu fe allech chi ledaenu germau o’r cig sydd heb ei goginio.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol am Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Mae gwenwyn bwyd yn brofiad diflas dros ben ac mae mor hawdd i’w osgoi.

“Trwy ddilyn ychydig o gamau syml yn y gegin, gallwch leihau’r perygl o wenwyn bwyd yr haf hwn.”

Am fwy o gyngor am ddiogelwch bwyd, edrychwch ar wefan y GIG.

Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION

Rhannu
Erthygl flaenorol Play Work Arddangosfa Gwaith Chwarae yn boblogaidd iawn
Erthygl nesaf Caddy food waste recycling liner Nodyn atgoffa – sut i gael bagiau cadi am ddim

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pontcysyllte aqueduct
Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle Mehefin 23, 2025
Theatr Stiwt
Ysgolion Wrecsam yn ymuno: Cyngerdd codi arian ar gyfer apel Eisteddfod Genedlaethol 2025!
Arall Mehefin 23, 2025
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Mehefin 23, 2025
food supply chain
Cwmni Wrecsam yn gyrru twf yng nghadwyn cyflenwi bwyd Cymru
Busnes ac addysg Mehefin 23, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pontcysyllte aqueduct
Pobl a lle

Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mehefin 23, 2025
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mehefin 23, 2025
aging couple
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Heneiddio’n Dda – cewch wybod mwy ar 26 Mehefin

Mehefin 20, 2025
Lucy Cowley
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Cyhoeddi rhestr fer dysgwr y flwyddyn Eisteddfod 2025

Mehefin 20, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English