Beth yw Cefnogwr Rhieni?
Mae Cefnogwyr Rhieni’n wirfoddolwyr sy’n gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam i ddarparu gwybodaeth a chyngor yn eu cymunedau lleol. Maent yn cyfeirio rhieni a gofalwyr at wasanaethau lleol ac yn rhannu eu profiadau personol o fod yn rhiant a chael mynediad at gefnogaeth eu hunain.
Cyfeirio rhieni a gofalwyr
Gallwch ofyn i gefnogwyr rhieni am bynciau amrywiol, gan gynnwys:
- Gweithgareddau a digwyddiadau ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol
- Gwasanaethau cymorth i rieni
- Gwasanaethau cymorth iechyd a lles
- Gwasanaethau cymorth perthnasoedd
- Gwasanaethau i blant anabl a phlant sydd ag anghenion ychwanegol
Derbyn cefnogaeth bellach
Os ydych chi wedi cwrdd â chefnogwr rhieni yn eich cymuned leol ac os hoffech chi gael cefnogaeth neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni drwy lenwi ffurflen ymholiad Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.
Dod yn gefnogwr rhieni
Rydym bob amser yn chwilio am gefnogwyr rhieni newydd a hoffai gefnogi’r teuluoedd yn eu hardal leol. I ddarganfod mwy am gyfleoedd i wirfoddoli gyda chefnogwyr rhieni, anfonwch e-bost at parentchampions@wrexham.gov.uk.
Beth ddywed ein cefnogwyr rhieni
“Mae ymuno â’r rhaglen hon wir yn gwella fy sgiliau ar bob lefel”. Noha Sadek
“Dwi wrth fy modd yn bod yn gefnogwr rhieni, mae’n wych. “Rydym ni’n dîm da, fe allwn ni wneud gwahaniaeth. “Y mwyaf o gefnogwyr rhieni y gallwn ni eu cael y mwyaf o rieni y gallwn ni eu helpu.” Becky Harris
“Rwy’n gallu cynnig cefnogaeth ac arweiniad i deuluoedd a allai fod angen rhywun i ddal eu llaw bob hyn a hyn.” Jade Humphreys – Jones