Os ydych yn byw yn ardaloedd Cefn, Plas Madoc a Rhiwabon yn Wrecsam mae yna gyfle i chi ddarganfod sut y gallwch sefydlu eich busnes eich hun a fydd yn helpu preswylwyr hŷn neu anabl i wella eu hannibyniaeth.
Fe fydd Catalydd Cymunedol Wrecsam, Tom Hughes, wrth law yng Nghymdeithas Gymunedol Cefn, Rhosymedre a Chefnbychan ddydd Llun 18 Gorffennaf rhwng 10am a 12pm i ateb eich cwestiynau ynglŷn â sut y gallwch ddod yn rhan o hyn.
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!
Mae’n bosibl fod gennych syniad eisoes yr hoffech fynd ag ef ymhellach neu efallai yr hoffech helpu pobl yn eich cymuned i wella ansawdd eu bywydau ac mae hwn yn gyfle i weithio’n lleol, ennill incwm a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Dywedodd Tom, “Dwi’n edrych ymlaen at gyfarfod nifer o bobl o’r ardal a’u rhoi ar y trywydd i ddod yn hunangyflogedig a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymuned. Fe fyddant yn ymuno â nifer o unigolion eraill sydd wedi cymryd y llwybr hwn tuag at gyflogaeth drwy ddefnyddio ac ehangu’r sgiliau sydd ganddynt eisoes.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Dyma gyfle gwych i bobl ddod yn rhan o hyn a thrwy fod yn hunangyflogedig fe fyddant yn gallu mwynhau cydbwysedd bywyd a gwaith sy’n gweddu iddynt hwy a’u teuluoedd.”
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR