Queen's Dragoon Guards

Dyma gyfle arall i gefnogi ein lluoedd arfog pan fydd Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines, y Marchfilwyr Cymreig, yn cynnal eu Gorymdaith Ddychweliad am 11:00 ar 12 Gorffennaf.

Mae’r Gatrawd wedi dychwelyd ar ôl 12 mis o weithrediadau NATO ym Mali, Affrica, ac maent yn edrych ymlaen yn fawr at gael gorymdeithio yn Wrecsam. Yn 2009 oedd y tro diwethaf iddynt fod yma.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

Yn gyntaf, byddant yn cael eu Harchwilio gan y Maer, y Cynghorydd Brian Cameron, a’r Arglwydd Raglaw, Mr Henry Fetherstonhaugh OBE DL, yn Llwyn Isaf. Dilynir hynny gan ganiatâd i orymdeithio drwy ganol Wrecsam am 11:25.

Byddant yn mynd ar hyd y ffyrdd canlynol:

  • O Lwyn Isaf, i’r dde ar Stryt Caer.
  • Ar hyd Stryt Caer heibio tafarn y Welch Fusilier ar y rhan o Stryt Caer sy’n barth cerddwyr heibio Tŷ Pawb.
  • I’r dde ar y Stryt Fawr ger Gwesty’r Wynnstay.
  • I’r dde ar Stryt yr Hôb.
  • Cadw i’r dde ar Stryt y Syfwr.
  • I’r dde ar Stryt y Lampint.
  • I’r chwith ar Stryt Caer ger tafarn y Saith Seren.
  • I’r chwith i faes parcio’r Llyfrgell yn Llwyn Isaf, lle bydd y Gatrawd yn aros yn eu hunfan ac yn camu allan.

Bydd Stryt Caer ynghau rhwng 9am a 12pm ar gyfer y digwyddiad, a bydd y ffyrdd ar weddill llwybr yr orymdaith yn cau o bryd i’w gilydd.

Dywedodd yr Uwchgapten R. C. Mansel QDG, “Mae Gwarchodlu Dragŵn 1af y Frenhines, ‘Y Marchfilwyr Cymreig’, yn falch o gael yr anrhydedd a’r cyfle arbennig yma i gynnal gorymdaith ddychweliad yn Ninas Wrecsam.

“Mae’r Gatrawd yn dychwelyd ar ôl 12 mis o weithrediadau NATO ym Mali, Affrica, ac mae’r aelodau’n edrych ymlaen yn fawr i fod yn ôl yng ngogledd Cymru, un o’n prif ardaloedd recriwtio. Mae gan y gatrawd hanes maith o recriwtio milwyr o Gymru. Yn 2027 bydd Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines yn dychwelyd yn barhaol i wersyll newydd yng Nghaer-went, y tro cyntaf fydd y gatrawd wedi ei lleoli yng Nghymru ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.”

Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron, “Rwy’n edrych ymlaen at weld Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines yn Wrecsam unwaith eto, ac rwy’n gwybod y bydd llawer o bobl yn ymuno â mi i’w croesawu’n ôl o Mali.”

Dywedodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry Jones, “Byddwn unwaith eto’n ymgynnull yn Wrecsam i wylio’n milwyr yn gorymdeithio ar strydoedd Wrecsam. Nid yw Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines wedi bod yma ers dros 10 mlynedd, ac rwy’n gwybod y bydd y croeso iddynt yn gynnes iawn.”

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

TALU NAWR