A ydych chi wedi bod yn ystyried newid gyrfa?
A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?
A ydych chi erioed wedi ystyried cynnig cartref i blentyn?
A oes gennych chi ystafell wely sbâr?
A ydych yn 21 mlwydd oed neu’n hŷn?
Mae nifer o resymau pam nad yw plant yn gallu byw gyda’u teuluoedd biolegol, p’un a yw hynny yn y tymor byr neu’r hirdymor.
Mae ystod eang o drefniadau gofal y gallwch ddod yn rhan ohonynt, gan gynnwys maethu plentyn, mabwysiadu plentyn neu ddarparu llety â chymorth.
Mae gwasanaethau plant Cyngor Wrecsam yn chwilio am bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sydd â’r nodweddion i gynnig cartref diogel a gofalgar i blant Wrecsam i’w galluogi i aros yn eu cymuned i gynnal perthnasoedd pwysig gyda theulu, ffrindiau ac addysg. A allech chi annog a chefnogi plant i fwynhau eu plentyndod, cael llawer o hwyl, creu atgofion gwerthfawr, tyfu a datblygu’n hyderus, cyrraedd eu potensial llawn, cyflawni canlyniadau cadarnhaol, a helpu i’w paratoi ar gyfer oedolaeth a symud ymlaen i fyw’n annibynnol pan fyddant yn barod? Mewn rhai achosion, gall pobl ifanc aros gyda’u gofalwr nes y byddant yn 21 neu’n 25 oed, yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau unigol.
Rydym yn recriwtio am ystod eang o ofalwyr i blant a phobl ifanc rhwng 0 ac 18 oed yn y tymor byr a’r hirdymor, gan gynnwys:
Rhiant a phlentyn. A allwch chi helpu teulu i aros gyda’i gilydd drwy fod yn ofalwr maeth rhiant a phlentyn? Mae gofalwyr maeth rhiant a phlentyn yn cynnig cefnogaeth i famau a thadau naill ai ar y cyd neu ar wahân i ofalu am eu plentyn (neu blant); drwy rôl fodelu cadarnhaol, darparu amgylchedd diogel a llawn cariad, cymell rhieni i sefydlu patrwm a gwella eu sgiliau rhianta i fodloni anghenion unigol eu plentyn.
Pobl ifanc. Gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn eu harddegau; eu cefnogi i ddygymod â thyfu i fyny, dysgu sgiliau newydd, datblygu talentau a diddordebau, derbyn mwy o gyfrifoldebau, arbrofi a pharatoi ar gyfer annibyniaeth a datblygu hunaniaeth unigol. Mae ein pobl ifanc angen gofalwyr a fydd yn cynnig diogelwch, ffiniau, canllawiau, cadernid, empathi a hiwmor wrth iddynt baratoi at fod yn oedolion.
Plant ag anableddau. A allech chi ddarparu gofal arbenigol i blant ag anghenion meddygol, anghenion corfforol, neu anghenion dysgu cymhleth? Mae gofalu am blant yn rôl werthfawr, yn arbennig plant ag anableddau, wrth i chi eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial. Mae gofalwyr yn cynnig gofal tymor byr a hirdymor, gan gynnwys egwyliau byr. Byddwch yn derbyn hyfforddiant arbenigol, a chymorth a chyngor parhaus.
Brodyr a Chwiorydd. Mae darparu gofal i frodyr a chwiorydd i sicrhau fod unedau teuluol yn aros gyda’i gilydd i gynnal y cysylltiad arbenigol rhwng brodyr a chwiorydd yn hanfodol. Mae’r buddion sydd ynghlwm â brodyr a chwiorydd yn aros gyda’i gilydd pan fyddant yn profi colled neu wahaniad, yn cynnig cysur a sicrwydd iddynt ac yn helpu plant i beidio â phoeni am eu brodyr a’u chwiorydd. Mae brodyr a chwiorydd yn rhannu hunaniaeth gyffredin, a gyda’i gilydd, gallant gynnig cymorth i’r naill a’r llall.
Tymor byr. Gofalu am blentyn nes y byddant yn gallu dychwelyd at eu teulu biolegol neu symud ymlaen at drefniant gofal hirdymor. Mae hyd gofal tymor byr yn ddibynnol ar amgylchiadau unigol ac yn amrywio o aros yn rhywle am noson, ychydig ddyddiau neu ychydig fisoedd.
Hirdymor. Pan nad yw’n bosibl i blant ddychwelyd at eu teuluoedd am gyfnod sylweddol o amser, mae’n rhaid gwneud trefniadau gofal hirdymor er mwyn cynnig gofal diogel a chyson i blant nes y byddant yn oedolion, neu cyn hynny, yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau unigol.
Gofal seibiant. Gofalu am blentyn am gyfnod penodol, h.y ychydig ddyddiau, penwythnos, yn ystod gwyliau ysgol i gefnogi teuluoedd biolegol neu’r gofalwyr maeth presennol.
Llety â chefnogaeth. A allech chi ddarparu llety â chefnogaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed sydd angen cymorth, anogaeth a chanllawiau i ddatblygu sgiliau a hyder i’w paratoi ar gyfer byw’n annibynnol?
Byddwn yn cynnig cymorth i chi 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, lwfans a buddion gwych eraill, hyfforddiant rhagorol a chyfleodd dysgu parhaus, a byddwn yn eich cefnogi drwy bob cam. Byddwch yn derbyn cefnogaeth ac arbenigedd gan ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys gofalwyr maeth. Byddwch yn rhan o dîm gofalgar, brwdfrydig a hwyliog sy’n canolbwyntio ar y plentyn a bob amser ar gael i gynnig y cyngor, cefnogaeth a’r canllawiau cywir.
Gwyddwn y bydd gennych gwestiynau yr hoffech chi eu gofyn, ac rydym ni yma i siarad â chi. Os hoffech chi siarad â’r tîm, ffoniwch 01978 295316. Byddwn yn fodlon ateb POB UN o’ch cwestiynau a darparu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys siarad â gofalwyr maeth i glywed eu profiadau, i’ch cynorthwyo i gymryd y cam nesaf i ymuno â ni a bod yn rhan o rywbeth arbennig a chefnogi plant Wrecsam.
Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â’n gwefan neu cysylltwch â ni dros e-bost
E-bost: maethu@wrexham.gov.uk
Gwefan: https://www.wrecsam.gov.uk/service/gofal-cymdeithasol-i-blant/maethu