Rydym wedi datblygu ein Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy’n gynllun defnydd tir hirdymor a datblygu sy’n edrych ar beth ellir ei adeiladu a lle y gellir ei adeiladu. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai, cyflogaeth a defnyddiau tir eraill fel hamdden neu addysg. Bydd y CDLl yn parhau i 2028.
Ar hyn o bryd mae’r cynllun yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac fe hoffem i chi gymryd rhan a dweud wrthym beth yw eich barn. Mae’n ddogfen bwysig ac fe allai effeithio arnoch yn y dyfodol felly mae’n werth edrych beth allai ddigwydd yn neu o gwmpas lle rydych yn byw.
“Digon o amser i ddweud eich dweud”
Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd at Fai 31 ac mae digon o amser o hyd i ddweud eich dweud. Mae’n bosibl eich bod yn gwrthwynebu cynnig i’r cae gyferbyn â chi gael ei glustnodi ar gyfer tai neu ddefnyddiau eraill, neu eich bod yn gwrthwynebu’r ffaith nad yw ardal wedi ei chlustnodi ar gyfer tai neu ddefnyddiau eraill ond i barhau fel man agored.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Bydd yn nodi’r polisïau a’r cynigion a fydd yn cael eu defnyddio i benderfynu ar geisiadau cynllunio a gwneud darpariaeth ar gyfer diogelu asedau hanesyddol, yr amgylchedd naturiol a diwylliant, yr iaith Gymraeg, ynni adnewyddadwy, mannau gwyrdd ac ardaloedd siopa o fewn y Fwrdeistref Sirol.
I gymryd rhan ewch i dudalen y CDLl ar y yma
“Cyflwyno i Lywodraeth Cymru”
Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi gorffen byddwn yn edrych ar yr hyn sydd wedi eu hawgrymu/cynnig neu’r hyn sy’n destun gwrthwynebiad a bydd polisi terfynol, gan gynnwys y sylwadau a wnaed, yn cael ei gyflwyno gan y cyngor i Lywodraeth Cymru fis Tachwedd eleni.
Bydd Llywodraeth Cymru yn annibynnol yn gweld pa mor gadarn a chynaliadwy yw’r cynllun a bydd yn adrodd yn ôl i’r cyngor. Os yw popeth yn mynd yn ôl yr amserlen fe ddylai’r cynllun ddod i rym yng ngwanwyn 2019 a bydd yn cael ei fonitro’n flynyddol.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.