Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A wyddoch chi fod arnoch chi angen prawf adnabod â llun i bleidleisio?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > A wyddoch chi fod arnoch chi angen prawf adnabod â llun i bleidleisio?
Y cyngorPobl a lle

A wyddoch chi fod arnoch chi angen prawf adnabod â llun i bleidleisio?

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 26, 2024 1:24 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
angen
RHANNU

Mewn rhai etholiadau yn y DU, mae’n ofyniad cyfreithiol arnoch i ddangos prawf adnabod â llun wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

Bydd gan y mwyafrif o bobl brawf adnabod â llun y gellir ei ddefnyddio, er enghraifft, gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r canlynol:

  • Pasbort
  • Trwydded yrru (gan gynnwys trwydded dros dro)
  • Bathodyn Glas
  • Cardiau teithio consesiynol penodol
  • Cerdyn adnabod gyda marc PASS (Cynllun Safonau Prawf Oedran)
  • Dogfen mewnfudo biometrig
  • Cerdyn Adnabod Amddiffyn
  • Cardiau adnabod cenedlaethol penodol

Un dull o brawf adnabod â llun yn unig y bydd angen i chi ei ddangos ond mae’n rhaid i chi gyflwyno’r fersiwn gwreiddiol ac nid llungopi ohono. Mae’n rhaid i’r enw ar eich Prawf Adnabod fod yr un enw y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i bleidleisio.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y rhestr lawn o ffurfiau o brawf adnabod â llun a dderbynnir, ymwelwch â gwefan y Comisiwn Etholiadol  neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0800 328 0280.

Gallwch hefyd wirio pa etholiadau sy’n ymofyn prawf adnabod â llun ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Wedi newid eich enw?  Peidiwch â cholli eich pleidlais

Ydych chi wedi newid eich enw yn gyfreithiol trwy briodas neu weithred newid enw?  Os felly, ydych chi wedi cofio ail-gofrestru i bleidleisio yn eich enw newydd.

Os nad yw eich enw ar y gofrestr yn cyd-fynd â’ch prawf adnabod â llun, efallai na fyddwch yn gallu pleidleisio. 

Y ffordd hawddaf i newid eich enw yw mynd i  gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Os nad oes gennych chi Brawf Adnabod â llun a dderbynnir

Os nad oes gennych chi brawf adnabod â llun a dderbynnir, neu os nad ydych chi’n siŵr os yw eich prawf adnabod â llun yn edrych yn debyg i chi, gallwch wneud cais am ddogfen prawf adnabod i bleidleisio yn rhad ac am ddim, y caiff ei alw’n Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Fel arall, gallwch gwblhau ffurflen gais ar bapur a’i hanfon at eich swyddog cofrestru etholiadol lleol.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr i’w defnyddio mewn etholiad arbennig yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.

Os oes arnoch angen cymorth i ymgeisio am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu os  hoffech chi wneud cais am ffurflen gais, anfonwch e-bost at electoral@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292020.

Pan fyddwch yn ymgeisio am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, bydd arnoch angen cynnwys llun. Dyma fideo byr i’ch helpu i dynnu’r llun yn gywir:

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, ymwelwch â gwefan y Comisiwn Etholiadol , neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0800 328 0280.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Workplace recycling is changing Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid – ydych chi’n paratoi ar gyfer mis Ebrill?
Erthygl nesaf Food poverty Gweithio gyda’n gilydd i leihau tlodi bwyd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Rhiannon Roberts yn torri'r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam
Pobl a lle

Rhiannon Roberts yn torri’r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English