Mae Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd er mwyn sicrhau ei bod yn gallu cynllunio ar gyfer anghenion unrhyw un sy’n derbyn neu’n darparu gofal yn y rhanbarth i’r dyfodol.
Rydyn ni eisiau gwybod am y gefnogaeth rydych chi’n ei chael, pa mor dda mae’n gweithio a beth sy’n bwysig i chi.
Er mwyn gwneud hyn, mae arolwg ar-lein ar gael ar hyn o bryd i chi ei gwblhau, a byddwn yn defnyddio’r canlyniadau i ddiweddaru’r cynlluniau.
Mae gofal a chefnogaeth yn cynnwys cymorth gyda byw o ddydd i ddydd yn sgil anabledd neu salwch corfforol neu feddyliol i bobl o bob oedran. Mae’n cynnwys plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn gofal maeth neu wedi cael eu mabwysiadu yn ogystal â gofalwyr di-dâl sy’n darparu cymorth i deulu neu ffrindiau.
Cwblhewch yr arolwg erbyn 11 Hydref 2021 os gwelwch yn dda.
Os byddai’n well gennych chi ateb y cwestiynau dros y ffôn, cysylltwch ag Eluned Yaxley ar 01824 712041.
Os hoffech chi gysylltu â ni gan ddefnyddio Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio’r gwasanaeth InterpretersLive! a ddarperir gan Sign Solutions. Mae fersiynau eraill ar gael ar ffurf Hawdd ei Ddarllen; fersiynau i blant a phobl ifanc a fersiynau y gellir eu hargraffu er hwylustod.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL