Gall swyddi fod yn ddiddorol am wahanol resymau…ond mae rhywbeth arbennig am y cyfle hwn, sydd yn gwneud i’r swydd sefyll alan.

Rydym yn chwilio am Swyddogion Seremoni Achlysurol i gynnal seremonïau priodas a phartneriaeth sifil ledled y fwrdeistref sirol.

Wel does dim llawer o swyddi ble gewch weithio bob dydd gyda phobl sydd yn profi rhai o ddigwyddiadau pwysicaf yn eu bywyd, ond mae cyfle yn fan hyn.

Mae’n swydd achlysurol, a disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus weithio rhai penwythnosau a gwyliau banc, yn ogystal â seremonïau yn yr wythnos, pan fo angen, yn ystod misoedd prysur.

Gallwch weithio o amgylch eich swydd ran-amser neu hyd yn oed swydd lawn amser bresennol. Hoffem glywed yn arbennig gan staff Cyngor Wrecsam sy’n ystyried cynyddu eu horiau.

YMGEISIO I FOD YN SWYDDOG SEREMONI ACHLYSUROL

Rhoddir hyfforddiant a chefnogaeth

Swnio fel llawer o gyfrifoldeb? Peidiwch â phoeni, rhoddir hyfforddiant a chefnogaeth i sicrhau bod gennych y sgiliau a’r hyder i allu cynnal seremonïau, yn ogystal â darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych bob amser.

Am beth rydym yn chwilio

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn talu sylw gwych i fanylion er mwyn cofnodi gwybodaeth yn gywir, meddu ar sgiliau rheoli amser gwych ac yn cyfathrebu’n glir.

Mae llawysgrifen glir a rhywfaint o brofiad o weithio’n uniongyrchol â’r cyhoedd hefyd yn ddymunol.

Mae hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a chywirdeb yn ffactorau allweddol o fewn y swydd hon.

Oes gennych chi ddiddordeb? Gallwch ganfod mwy am y swydd yma.

Neu os ydych wedi darllen digon yn barod ac eisiau ymgeisio, cliciwch y botwm isod.

Y dyddiad cau yw dydd Sul, 10 Hydref.

YMGEISIO AM Y SWYDD