A oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ar rai o adeiladau hynaf Wrecsam?
A ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu? Efallai eich bod chi’n chwilio am sgil newydd i’w ddysgu.
Os felly, darllenwch y canlynol…
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol
Byddwn yn cynnal cwrs dau ddiwrnod ar atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol (cyn 1919) yn Nhŷ Pawb ddydd Mercher, 24 Ebrill a dydd Iau, 25 Ebrill.
Dyfarniad Lefel 3 wedi’i hachredu gan CITB? yw’r cwrs, bydd yn cynnig dealltwriaeth ymarferol o gynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau cyn 1919 i’r mynychwyr – ynghyd â’r heriau sy’n gysylltiedig â cynnal a chadw’r adeiladau hyn.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol a chontractwyr adeiladu.
Pa fath o sgiliau fyddaf yn eu dysgu?
Yn ystod y cwrs dau ddiwrnod, byddwch yn dysgu pethau megis:
- Adeiladau traddodiadol – eu mecanweithiau a’u harwyddocâd
- Technegau ymchwilio arbenigol
- Gwaith cynllunio ar adeiladau hanesyddol
- Egwyddorion addasu
… a llawer mwy.
Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim, oherwydd talwyd ffiau’r cwrs trwy’r Rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol, mewn partneriaeth a Chadwyn Clwyd.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae lwfans o hyd at £70 ar gael ar gyfer cwmnïau sydd wedi cofrestru â CITB.
Am fanylion pellach, neu i archebu lle ar y cwrs, cysylltwch â’n Swyddog Sgiliau Adeiladu Traddodiadol ar david.davies@wrexham.gov.uk.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB