Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi canllawiau clir ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector lletygarwch ac unrhyw un sy’n mynd allan i dafarn neu am bryd o fwyd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Gellir dod o hyd i’r canllawiau yma. https://llyw.cymru/hospitality-and-retail-businesses-frequently-asked-questions ond dyma’r newidiadau allweddol:
Mae bellach yn ofyniad cyfreithiol i wisgo masg wyneb i ymweld â thafarn neu fwyty neu gaffi.
- Bydd pob aelod o staff sy’n gweithio mewn safleoedd gyda chwsmeriaid yn gwisgo masgiau.
- Mae’n rhaid i chi wisgo eich masg drwy’r amser gan eithrio pan fyddwch yn eistedd wrth eich bwrdd
- Bydd gwasanaeth gweini wrth y bwrdd ar waith ac ni chaniateir i chi fynd at y bar. Bydd yn rhaid archebu wrth y bwrdd a bydd staff yn cario eich diodydd atoch chi.
- Ni allwch gymysgu gydag unrhyw un y tu allan i’ch grŵp na symud o gwmpas y safle.
- Ni chaniateir i chi symud y byrddau gan y bydd y rhain wedi’u gosod mewn trefn er mwyn cadw pobl o wahanol aelwydydd ar wahân.
- Hyd yn oed os ydych chi ond yn mynd allan am ddiod, mae’n rhaid i chi aros wrth eich bwrdd drwy gydol eich ymweliad.
- Os bydd arnoch chi angen gadael y bwrdd am unrhyw reswm, er enghraifft, i fynd i’r toiled, mae’n rhaid i chi wisgo eich masg wyneb.
- Mae’n debygol y bydd tafarndai a bwytai’n gweithredu system archebu, hyd yn oed ar gyfer diodydd yn unig. Gwiriwch cyn i chi fynd ac archebwch fwrdd os oes modd.
- Mae rhai eithriadau yn ymwneud â gwisgo masgiau a fydd yn berthnasol i rai cwsmeriaid ac eglurir y rhain yn y canllawiau.
Cofiwch y bydd yn rhaid i chi wisgo masg os ydych chi’n teithio ar drên neu fws.
Mae’r mesurau newydd hyn ar waith er mwyn gwarchod pawb a lleihau lledaeniad y feirws. Os ydynt yn methu, a fod heintiau yn parhau i gynyddu, mae’n debygol y bydd yn rhaid cyflwyno mesurau mwy llym.
Gwnewch eich rhan i gadw Wrecsam yn ddiogel.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG