Mae ein Tîm Busnes a Buddsoddiad yn parhau i ddarparu gwybodaeth a chymorth rhagorol i fusnesau ar draws y sir yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Os oes arnoch chi angen cymorth i gael mynediad at y cyllid, y gefnogaeth a’r cyngor sydd ar gael gan lywodraethau lleol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ogystal â ffynonellau eraill, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Mae ffrydiau cyllido a phecynnau cymorth newydd yn cael eu cyhoeddi bob diwrnod, ac mae’r tîm yn casglu ac yn rhannu’r wybodaeth hon.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Os nad ydych chi eisoes wedi derbyn unrhyw wybodaeth, cysylltwch â’r tîm, a bydd un o’r swyddogion cymorth i fusnesau yn esbonio pa elfennau o gymorth sydd ar gael i’ch cwmni, ac yn darparu dolenni i’r ffurflenni cais a’r tudalennau gwybodaeth perthnasol, byddant hefyd yn eich ychwanegu chi at y rhestr e-bost i sicrhau eich bod yn derbyn unrhyw ddiweddariadau i’r dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’n gyfnod heriol iawn i’r economi yn Wrecsam, mae busnesau o bob maint yn dioddef, ond mae cymorth ar gael ar eu cyfer, o grantiau arderthi busnes annomestig i Gronfa Wrthsefyll Economaidd Llywodraeth Cymru, ac mae ein Tîm Busnes a Buddsoddiad yma i’ch cefnogi, byddant yn ymateb i’ch ymholiadau ar unwaith ac yn darparu pwynt cyswllt uniongyrchol i chi.”
I gysylltu â’r tîm, ffoniwch 01978 667300 neu anfonwch e-bost at business@wrexham.gov.uk
Ewch i gael golwg ar y crynodeb o gymorth sydd ar gael ar gyfer busnesau a effeithir gan COVID-19
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19