Mae adnodd arbennig wedi’i greu sy’n caniatáu i ddisgyblion a rhieni gael gafael ar adnoddau Cymraeg defnyddiol, er mwyn iddyn nhw barhau i ymarfer eu Cymraeg gartref yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Cafodd tudalen Facebook ‘Cymraeg: Cymorth i Addysgu yn y Cartref / Home-educating Ideas and Support’ ei lansio gan Wasanaeth Hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg Wrecsam, ac mae’n cyfeirio unigolion at amrywiaeth o adnoddau cyfoes, ysbrydoledig a llawn hwyl.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ar y dudalen, ysgrifennodd Eleri Vaughan Roberts, Cydlynydd Hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg (Cynradd) Cyngor Wrecsam: “Bwriad y dudalen hon yw rhannu adnoddau addysgiadol a syniadau ar sut i gefnogi plant yn y Gymraeg yn ystod y misoedd nesaf.
“Prif fwriad y dudalen yw cefnogi taith iaith hwyrddyfodwyr i’r Gymraeg a phlant sydd angen hwb iaith yn y sector cynradd. Serch hynny, mi fydd llawer o’r adnoddau a rennir o fudd i unrhyw riant/gofalwr sydd yn gyrru eu plant i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.”
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19