Yr wythnos diwethaf, cyhoeddom ddarn sy’n rhoi manylion am ein pwyllgorau gwahanol, sut maent yn gweithio a’r hyn maent yn eu gwneud.
Yn ddiweddar cyhoeddom ein Adroddiad Craffu Blynyddol ar gyfer 2017/18, felly yn y darn hwn, rydym am edrych ar ein pwyllgorau craffu.
Beth all bwyllgorau craffu eu gwneud?
Nid yw pwyllgorau craffu yn wneud penderfyniadau, ond mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae mewn arholi manylion y manylion sy’n effeithio ar y cyngor a’r cyhoedd.
Maent eu swyddogaethau allweddol yn cynnwys herio perfformiad gwasanaethau ac adrannau’r cyngor, helpu i ddatblygu polisïau ac sy’n effeithio ar y gwasanaethau yr ydym yn eu derbyn, ac i wirio ein Bwrdd Gweithredol – hyd yn oed i “galw fewn” ei phenderfyniadau.
Yn gyffredinol, pwrpas craffu yw galluogi gwelliant, a gall y pwyllgorau arholi unrhyw beth sy’n effeithio ar bobol yn y sir fwrdeistrefol.
Gall aelodau penderfynu ar y materion hyn – fel canlyniad o geisiadau gan gynghorwyr eraill, swyddogion neu aelodau o’r cyhoedd.
Nid oes gan y pwyllgorau craffu’r pŵer i herio cyrff allanol, ond mae ganddynt berthnasoedd da gyda sefydliadau eraill megis y Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Choleg Cambria – mae’r rhain yn gyfarfod a’n bwyllgorau craffu yn aml i drafod eu cynlluniau a’u berfformiad.
Mae gennym bump pwyllgorau craffu gwahanol, a phob un yn cynnwys aelodau etholedig.
Dyma ddisgrifiad cryno o bob un ohonynt.
- Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddiad: Mae’r pwyllgor hwn yn edrych ar y pethau hynny sy’n annog twf yn economi Wrecsam, megis cymorth i fusnesau, datblygu economaidd, twristiaeth, diwylliant, adfywio a datblygiad trefol neu wledig.
- Diogelu, Cymunedau a Lles: Mae’r pwyllgor hwn yn trafod gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion, iechyd, gwasanaethau gwarchod y cyhoedd, gwasanaethau hamdden, canolfannau cymunedol, trosedd ac anrhefn.
- Cartrefi a’r Amgylchedd: Mae’r pwyllgor hwn yn archwilio tai fforddiadwy, stoc dai’r cyngor, tai cymdeithasol, digartrefedd, safleoedd i deithwyr, rheoli gwastraff, arbed ynni, gwasanaethau strydwedd a ffyrdd
- Cwsmeriaid, Perfformiad, Adnoddau a Llywodraethu: Mae’r pwyllgor hwn yn adolygu llawer o’r gwaith sydd angen i ni ei wneud er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau fel cyflogwr ac fel awdurdod lleol. Mae hynny’n cynnwys pethau fel rheoli perfformiad, Adnoddau Dynol, materion cydraddoldeb, iechyd a diogelwch, cyswllt â’r cwsmer – yn cynnwys y Ganolfan Gyswllt – ein trefniadau rheoli arian ac asedau, trefniadau partneriaeth/cydweithio a’r gwasanaethau democrataidd.
- Dysgu Gydol Oes: Mae’r pwyllgor hwn yn trafod pethau fel materion addysg – ar gyfer plant ac oedolion – a llyfrgelloedd.
Adroddiad Craffu Blynyddol
Fel y crybwyllwyd uchod, yn ddiweddar cyhoeddom ein Adroddiad Blynyddol Craffu, sy’n edrych ar rai o’r llwyddiannau mawr a gyflawnwyd gan bob pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae ystod eang o faterion pwysig wedi cael sylw craffu yn ystod 2017/18, yn cynnwys:
- cyfyngiadau cyflymder lleol;
- eiddo gwag a sut y gellir eu defnyddio eto;
- monitro gorwariant contractau;
- safonau addysgol;
- cynigion y gyllideb ar gyfer 2018/19 a 2019/20;
- Uwchgynllun Canol Tref Wrecsam
- a llawer mwy.
Er mwyn gweld y meysydd eraill a drafodwyd gan graffu yn y flwyddyn ddiwethaf, gwelwch yr adroddiad llawn yma.
“Croesawu cyfranogiad y cyhoedd”
Dywedodd y Cynghorydd Sonia Benbow-Jones, Cefnogwr Craffu: “Mae ein pwyllgorau craffu wedi gwneud gwaith ardderchog yn y flwyddyn ddiwethaf, o adolygu gwaith a phrosiectau ein hunain i herio cyrff allanol ar y gwaith maent yn ei wneud yn Wrecsam.
“Ond mae craffu ar ei orau pan mae aelodau’r cyhoedd yn cymryd rhan – trwy godi eitemau i’w trafod neu adolygu, mynychu yn bersonol neu ddilyn cyfarfodydd pan gânt eu gweddarlledu.
“Felly, croesawn gyfranogiad y cyhoedd a chynghorir unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu tuag at graffu, gysylltu â ni.”
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I