Cymeradwywyd ein Cynllun Datgarboneiddio fis Mai 2021 a bydd adroddiad ar y cynnydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cartrefi ac Amgylchedd ddydd Mercher 20 Gorffennaf.
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol (Adeiladau, Cludiant a Symudedd, Defnydd Tir a Chaffael), yn ogystal â chamau gweithredu lefel uwch sy’n allweddol yn ein hymateb i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae swyddogion wedi parhau i weithio ar gyflymder i sicrhau ein bod ni ar y trywydd cywir i gyflawni ein hymrwymiadau fel rhan o’r cynllun ac i gwrdd â’r heriau cenedlaethol a rhanbarthol a chyrraedd y targedau.
Tra bod rhywfaint o’r gwaith yn dal yn heriol (oherwydd bylchau yn y dechnoleg sydd ar gael, fel cyflenwad parod o amnewidynnau addas ar gyfer cerbyd nwyddau trwm sy’n rhedeg ar danwydd ffosil a’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i fynd i’r afael â phethau fel isadeiledd gwefru cerbydau trydan ar strydoedd) mae yna gamau gweithredu a gweithgareddau allweddol ar waith i sicrhau bod ein hisadeiledd, polisïau, strategaethau a gwasanaethau yn ystyried effaith carbon.
Ni ddylid bychanu’r gwaith sydd ei angen i ddatgarboneiddio ein gwasanaethau ac arwain y ffordd o ran dyheadau datgarboneiddio ehangach Cymru
Fodd bynnag, mae yna weithgareddau allweddol a chamau gweithredu eisoes ar waith a fydd yn sicrhau ein bod ni’n barod am y newid.
Mae’r adroddiad yn dangos ein cynnydd yn erbyn 5 pwynt sy’n allweddol i sicrhau ein bod ni’n gallu cyrraedd y targed di-garbon ac mae’r atodiadau hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol.
- Gweithio gyda phartneriaid
- Llunio llinell sylfaen carbon, monitro a gwerthuso
- Blaenoriaethu a threfniadau llywodraethu ac atebolrwydd y Cyngor
- Dyrchafu datgarboneiddio yn ein penderfyniadau, a gwerthuso effeithiau penderfyniadau’r Cyngor
- Diffinio ffrydiau gwaith a chynlluniau gweithredu manwl ar gyfer y pedwar thema
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd, “Rydym ni wedi gwneud cynnydd da wrth sefydlu’r fframwaith ar gyfer cyflawni’r targed di-garbon erbyn 2030. Rydym ni hefyd wedi gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn sawl lleoliad yn y fwrdeistref, ac wedi buddsoddi i sicrhau bod ein hadeiladau yn defnyddio ynni’n effeithlon.
“Ond mae yna rwystrau eraill i’w goresgyn wrth i ni symud yn ein blaenau, a byddwn yn parhau i weithio i wella a rhoi sylw i effeithlonrwydd ynni yn ein harferion gwaith a’n cynlluniau.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad yma a gwylio cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cartrefi ac Amgylchedd yma.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH