Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
ArallArallPobl a lle

Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 30, 2017 3:43 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
RHANNU

Mae gan staff a disgyblion yn ysgol Rhosymedre ddigonedd i wenu amdano yn dilyn Adroddiad Arolygu llwyddiannus iawn gan Estyn.

Cynnwys
  • “Mae gan ddisgyblion lefelau eithriadol o uchel o ymddiriedaeth yn y staff a chredant yn gryf y bydd y staff bob amser yn gwneud eu gorau drostynt.”
  • “Wrth ein boddau ac yn arbennig o falch”

Yn sylwadau agoriadol yr adroddiad, mae’r Arolygydd yn dweud bod “Ysgol Gynradd Gymunedol Rhosymedre yn gymuned hynod ofalgar a meithringar sy’n sicrhau bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus….. Mae’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth yn cynnig arweinyddiaeth gadarn ac ymdeimlad clir o gyfeiriad strategol i waith yr ysgol; mae’r ddau yn angerddol iawn am y gymuned y maen nhw’n ei wasanaethu.”

Mae prif gasgliadau’r adroddiad yn nodi safonau eithriadol o uchel sydd yn yr ysgol ac mae pob pennawd naill ai’n “rhagorol” neu “da”.

Trwy gydol yr adroddiad, mae’r arolygydd yn nodi’r cynnydd rhagorol yn yr ysgol – mae safonau’n dda ac mae disgyblion yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn “yn gwneud cynnydd eithriadol wrth ddatblygu eu medrau lleferydd ac iaith.”

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Mae lles ac agweddau tuag at ddysgu yn “Rhagorol” ac mae “cryfder perthnasoedd gweithio rhwng disgyblion a staff yn nodwedd eithriadol o waith yr ysgol. Mae’r perthnasoedd hyn yn sylfaen i ddiwylliant yr ysgol a chwaraeant ran hollbwysig yn gwella agweddau disgyblion at ddysgu, eu symbyliad a’u hymddygiad.”

Mae un dyfyniad cofiadwy o’r adroddiad yn deyrnged i ddisgyblion a staff:

“Mae gan ddisgyblion lefelau eithriadol o uchel o ymddiriedaeth yn y staff a chredant yn gryf y bydd y staff bob amser yn gwneud eu gorau drostynt.”

Mae profiadau dysgu ac addysgu yn yr ysgol yn “dda” ac ar y cyfan mae ansawdd yr addysgu yn dda. Mae athrawon yn holi amrywiaeth eang o gwestiynau sy’n mynnu bod disgyblion yn meddwl drostynt eu hunain.

Mae Gofal, cymorth ac arweiniad yn yr ysgol yn Rhagorol. Mae’n “gymuned eithriadol o ofalgar a meithringar sy’n sicrhau bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn. O ganlyniad, o’r cychwyn cyntaf yn yr ysgol, mae disgyblion yn cael cefnogaeth ragorol i’w hanghenion cymdeithasol, emosiynol a dysgu.”

Yn olaf fe soniodd yr arolygwyr am arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol sydd yn “dda”. “Mae uwch reolwyr yn arwain trwy esiampl ac yn modelu’r ymddygiadau a ddisgwyliant gan staff yn eithriadol o dda. Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o bawb ac ohonynt eu hunain. Caiff arweinwyr gefnogaeth gref gan staff, sydd oll yn credu yng ngweledigaeth yr ysgol ac yn gweithio tuag at ei chyflawni.”

“Wrth ein boddau ac yn arbennig o falch”

Dywedodd Mrs Elizabeth Edwards y Pennaeth: “Rydym wrth ein boddau ac yn arbennig o falch o gasgliadau Estyn. Fe ddaw hyn yn sgil ymroddiad a gwaith caled fy nhîm anhygoel. Mae’r adroddiad yn deyrnged wirioneddol ac yn ddathliad o’r perthnasoedd gofalgar, cefnogol a pharchus sydd gennym gyda’n disgyblion, teuluoedd a’r gymuned. Rydym yn cydnabod yr argymhellion a nodwyd ac rydym yn hyderus y gallwn wneud y gwelliannau angenrheidiol”

Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre
Adroddiad Ardderchog ar gyfer Ysgol Rhosymedre

Dywedodd y Cynghorydd Ken Bather, Cadeirydd y Llywodraethwyr, “Mae Rhosymedre yn ysgol wych gyda staff a llywodraethwr ymroddedig. Rydw i’n falch iawn o’r holl staff, disgyblion a’u teuluoedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae hi’n amlwg o’r adroddiad ei bod yn ysgol eithriadol gyda staff a llywodraethwyr ymroddedig a chefnogol sydd eisiau’r gorau i’r plant sydd yn dysgu mewn amgylchedd lle maent eisoes yn ffynnu. Rwy’n eu llongyfarch ar yr adroddiad a dylai pawb fod yn falch iawn o’u hunain.”

Wrth i’r ysgol edrych tuag at y dyfodol fe fyddant yn canolbwyntio ar wella gallu disgyblion i ymestyn eu hysgrifennu, gwella safonau disgyblion mewn Cymraeg a’u gwybodaeth am ddiwylliant a threftadaeth Cymru. Byddant hefyd yn rhoi cyfleoedd rheolaidd i staff rannu arferion gorau mewn dysgu ac addysgu mewn ysgolion eraill.

Bydd Estyn yn gwahodd yr ysgol i baratoi dwy astudiaeth achos ar ei gwaith yn gysylltiedig â sut mae’n datblygu medrau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu cynnar disgyblion, a hefyd, ar sut mae’r ysgol wedi datblygu’n gymuned feithringar, sy’n gwella agweddau disgyblion at yr ysgol a’u hymddygiad, i’w lledaenu ar wefan Estyn.

Get instant news and info from Wrexham Council with MyUpdates

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/english/user_register/register.cfm “]SIGN ME UP[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Oes gennych chi ddiddordeb yng Nghanol y Dref? Efallai bydd gennych ddiddordeb yn hwn... Oes gennych chi ddiddordeb yng Nghanol y Dref? Efallai bydd gennych ddiddordeb yn hwn…
Erthygl nesaf Private Hire Bwriadu cael tacsi adref ar ôl eich parti Nadolig? Dylech chi ddarllen hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English