Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hoffech chi rentu garej gan y Cyngor?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Hoffech chi rentu garej gan y Cyngor?
Pobl a lleY cyngor

Hoffech chi rentu garej gan y Cyngor?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 4, 2019 10:46 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Hoffech chi rentu garej gan y Cyngor?
RHANNU

Mae gennym fwy na dwy fil o garejys ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, a gallwch rentu un p’un a ydych chi’n un o denantiaid y Cyngor neu beidio (ond rhoddir blaenoriaeth i denantiaid y Cyngor sy’n gwneud cais).

Cynnwys
  • Beth fedraf ei wneud gyda’r garej?
  • Faint mae’n ei gostio i rentu garej gan y Cyngor?
  • A fedraf rentu mwy nag un garej?
  • Sut allaf i wneud cais am garej?
  • Beth sy’n digwydd wedi imi wneud cais?
  • Beth os oes angen trwsio’r garej?

Ar hyn o bryd mae gennym garejys ar gael i’w rhentu yn y mannau canlynol:

Cartrefle, Queensway, Smithfield, Whitegate a Wynnstay, Pontfadog, Rhosymedre, Acton, Bryn Offa, Stansty, Rhosnesni, Rhosddu, Little Acton, Hightown, Maesdre, Owrtyn, Llannerch Banna, Maelor, Gwersyllt, Johnstown, Penycae, Ponciau a Southsea.

Beth fedraf ei wneud gyda’r garej?

Fe gewch chi ddefnyddio’r garej i gadw cerbyd modur preifat, beiciau modur, beiciau, pabell ar drelar neu unrhyw bethau eraill (ar yr amod nad oes dim a allai fynd ar dân).

Faint mae’n ei gostio i rentu garej gan y Cyngor?

Codir £8.08 bob wythnos ar denantiaid y Cyngor rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020. Dylid talu hwn yn wythnosol ar yr un pryd â rhent y tŷ cyngor.

I rai nad ydynt yn denantiaid y Cyngor, codir £118.72 gan gynnwys TAW bob tri mis.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

A fedraf rentu mwy nag un garej?

Efallai y cewch chi rentu mwy nag un garej os ydych chi wedi talu’ch rhent yn brydlon. Gallwhc gael hyd at ddwy garej os oes nifer fawr o bobl ar y rhestr aros, a hyd at dair ohonynt mewn ardaloedd lle nad oes galw mawr amdanynt.

Sut allaf i wneud cais am garej?

Gallwch naill ai wneud cais ar-lein neu ofyn am ffurflen gais ar bapur yn eich swyddfa dai leol.

Beth sy’n digwydd wedi imi wneud cais?

Mewn rhai ardaloedd nid oes galw mawr am y garejys ac felly gallech gael cynnig un yn syth bin, ond fel arall byddwch yn mynd ar restr aros.

Cynigir pob garej yn gyntaf i’r sawl sydd wedi bod hiraf ar y rhestr aros. Rhoddir blaenoriaeth i denantiaid y Cyngor, ond os nad oes rhai wedi ymgeisio, caiff pawb arall eu hystyried yn nhrefn dyddiadau’r ceisiadau.

Pan ddaw eich tro chi i gael garej fe anfonwn lythyr atoch i gadarnhau hynny. Byddwn hefyd yn anfon amodau tenantiaeth y garej a bydd arnoch angen llofnodi’r ddogfen cyn ichi fedru dod i nôl yr allweddi.

Beth os oes angen trwsio’r garej?

Pan fyddwch chi’n rhentu garej gan y Cyngor, mae ein gwasanaethau tai ni’n gwneud yr holl waith trwsio. Bydd yn rhaid ichi dalu’r costau os caiff unrhyw ddifrod i’r garej ei achosi’n ddamweiniol, yn fwriadol neu gan esgeulustod ar eich rhan chi, neu gan rywun arall sy’n byw ar eich aelwyd, ymwelwyr, anifeiliaid anwes neu gontractwyr yr ydych chi’n eu cyflogi.

Hoffech chi gael mwy o wybodaeth am garejys yn lleol? Cysylltwch â’ch swyddfa dai leol.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cylchfan Gresffordd – penwythnos olaf o waith Cylchfan Gresffordd – penwythnos olaf o waith
Erthygl nesaf Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol – Ein hadolygiad o ofal cymdeithasol Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol – Ein hadolygiad o ofal cymdeithasol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English