Bob blwyddyn, rhaid i ni adolygu ein perfformiad ar draws nifer o feysydd lle mae’r Cyngor yn gweithio – meysydd fel addysg, gofal cymdeithasol i oedolion, yr amgylchedd, priffyrdd, yr economi ac eraill.
Mae canlyniadau’r adolygiadau hynny yn cael eu cyhoeddi yn ein Hadroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllun y Cyngor.
Mae adroddiad eleni bellach ar gael yma.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Beth sydd yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol?
Mae’n mesur ein perfformiad yn erbyn ein 6 Amcan Lles a Blaenoriaethau Gwella yng Nghynllun y Cyngor 2021-2023 ac mae’n darparu asesiad cyffredinol o bob un:
- Datblygu’r economi
- Sicrhau Cyngor modern a chryf
- Sicrhau bod pawb yn ddiogel
- Gwella addysg uwchradd
- Gwella’r amgylchedd
- Hybu iechyd a lles a (gyda phwyslais ar wella gofal cymdeithasol i blant)
Nid yw’n synod bod adroddiad eleni yn tynnu sylw at y gwaith sylweddol a wnaed i adfer ar ôl y pandemig a sut rydym ni’n dod allan ohoni’n gryfach yn cynnwys creu adferiad cadarn a dod yn fwrdeistref sirol fwy gwyrdd a chynhwysol.
Mae’r adroddiad yn nodi asesiad cyffredinol o bob blaenoriaeth ac mae’n dangos y prif gyflawniadau.
Datblygu’r economi – Fe wnaethom sicrhau statws dinas, a Wrecsam oedd yr unig ymgeisydd o Gymru i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dinas Diwylliant 2025. Er bod y pandemig wedi parhau i effeithio ar Dîm Cymorth i Fusnesau, maent wedi parhau i weithio gyda busnesau a rhoi cyngor iddynt a’u cynorthwyo i gael gafael ar gyllid y llywodraeth. Gan edrych tuag at y dyfodol, derbyniodd Safle Treftadaeth y Byd £13.3 miliwn drwy gyllid Cronfa Ffyniant Bro a £220,000 o Gyllid Adfywio Cymuned, bydd hanner ohono’n cefnogi ailbwrpasu eiddo canol y dref.
Sicrhau Cyngor modern a chryf – Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddarparu’r ‘Rhaglen Ffyrdd Modern o Weithio’ sydd yn trawsnewid ein harferion gwaith drwy ddarparu amgylcheddau gwaith gwell, mabwysiadu technoleg ac atebion digidol newydd, gwneud ein gwaith yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir ac yn herio’r diwylliant mewn perthynas â’r ffordd y mae’r Cyngor yn gweithio. Bu yna gynnydd sylweddol yn y nifer o wasanaethau sydd ar gael ar-lein ac mae’r nifer o gwsmeriaid sydd yn teimlo ei bod hi’n haws cael gafael ar wasanaethau’r Cyngor wedi parhau yn uwch na 90%. Bu yna gynnydd o 42% yn y nifer o weithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu a gynhaliwyd drwy Eich Llais Wrecsam a’r roedd oedran yr ymatebwyr yn cyd-fynd yn agosach â’r boblogaeth gyffredinol nag yn y flwyddyn flaenorol.
Sicrhau bod pawb yn ddiogel – Drwy flaenoriaethu’r bobl ddiamddiffyn, rydym wedi sicrhau cartrefi i bobl sy’n ffoi gwledydd megis Syria, Affganistan ac Wcráin, ac wedi defnyddio grantiau cyfalaf i ddefnyddio cartrefi gwag eto. Rydym wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru yn gynnar. Mae 13 o gartrefi newydd wedi cael eu hadeiladu ym Mhlas Madoc a bydd tenantiaid yn symud i mewn yn fuan. Mae’r nifer o bobl sy’n cysgu allan wedi gostwng ac rydym ni’n parhau gyda’n gwaith estyn allan i flaenoriaethu’r grŵp yma i gadw’r niferoedd mor isel â phosibl. Mae cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a sefydliadau trydydd sector wedi darparu strydoedd diogel ac amgylchedd mwy diogel i ferched yn benodol trwy osod Teledu cylch caeëdig, tocio a chael gwared ar lystyfiant sydd wedi gordyfu mewn mannau cyhoeddus allweddol ac agor Hafan y Dref yn amlach.
Gwella’r amgylchedd – Rydym wedi cymeradwyo ein Cynllun Datgarboneiddio sydd yn ymateb i gyfleoedd a heriau newydd. Rydym wedi sicrhau grantiau o dros £640,000 i nifer o brosiectau allweddol yn cynnwys pecyn Teithio Llesol Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a choridor Ffordd yr Wyddgrug. Mae ein cyfraddau ailgylchu a chompostio yn parhau’n uchel ac rydym ni’n rhagori’n hawdd ar dargedau Llywodraeth Cymru yn y maes yma.
Gwella addysg uwchradd – Rydym ni’n parhau i gydweithio i gefnogi gwelliannau addysg a’r bobl ifanc hynny sydd yn ddiamddiffyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gael eu cynnwys yn system yr ysgol. Mae pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael ei adolygu gan dri phennaeth sydd ar secondiad ac rydym ni’n parhau i gefnogi ysgolion i wella presenoldeb. Rydym wedi ailstrwythuro ein gwasanaeth i gefnogi gwelliant ysgolion yn well ac i gefnogi’r deilliannau i’n plant a’n pobl ifanc.
Hybu iechyd a lles – Fe wnaethom gydnabod bod iechyd da (corfforol ac iechyd meddwl) a lles yn un o’r pethau pwysicaf y gall unigolyn ei gael ac mae’n effeithio ar gymaint o rannau eraill o’u bywyd. Fe wnaethom addo canolbwyntio ar ataliaeth ac ymyrraeth gynnar. Fe wnaethom flaenoriaethu gwasanaethau gofal cymdeithasol plant yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cynnal ein taith tuag at welliant, gyda golwg ar ddarparu’r lefel gywir o ofal a chefnogaeth, lle mae pob plentyn yn teimlo’n ddiogel ac yn ddiogel ac yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial. Fe wnaethom gytuno ar y Fframwaith Atal a Chymorth Cynnar a sefydlu Partneriaeth Atal a Chymorth Cynnar gan edrych ar ddatblygu ein Strategaeth. Fe wnaethom adnewyddu ein Safon Aur Iechyd Corfforaethol gan dderbyn sylwadau cadarnhaol am ein gwaith a’n dull o gefnogi lles drwy amrywiaeth o fentrau.
Dywedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Nid oes amheuaeth bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Ond mae hi wedi bod yn flwyddyn gyffrous hefyd gan ennill Statws Dinas, bod yr unig ymgeisydd o Gymru i gyrraedd rownd derfynol Dinas Diwylliant a gwobrau Amgueddfa y Flwyddyn y Gronfa Gelf.
“Rydym ni’n parhau’n bositif ein bod wedi ac y byddwn ni’n parhau i wella ac adeiladu bwrdeistref sirol lwyddiannus, cadarn, cynhwysol a gwyrdd. Fe fydd yna heriau pellach o’n blaenau, ond rydw i’n hyderus gyda chymorth ein staff, partneriaid a phreswylwyr y gallwn ni greu cymuned i fod yn falch ohoni.”
Yn ystod 2021/22 fe wnaethom ni gyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer blwyddyn olaf Cynllun y Cyngor – rydym wedi edrych eto ar ein blaenoriaethau a’r prosiectau a gweithgareddau rydym wedi’u rhoi ar waith i’w darparu nhw.
Ein Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23
- Datblygu a datgarboneiddio ein hamgylchedd
- Datblygu’r economi
- Sicrhau bod pawb yn ddiogel
- Sicrhau Cyngor modern a chryf
- Gwella addysg uwchradd
- Hybu iechyd a lles da (gyda phwyslais ar wella Gwasanaethau Plant)
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH