Social services

Mae Cyngor Wrecsam yn parhau i wneud gwelliannau i wasanaethau cymdeithasol.

Mae’r adroddiad yn dilyn adolygiad llawn gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Mehefin eleni, oedd yn cynnwys asesiad manwl o’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at:

  • Taith tuag at welliant i wasanaethau cymdeithasol i blant ers 2019.
  • Ymrwymiad ar draws y Cyngor – gan uwch arweinwyr, rheolwyr a gwleidyddion – i ddarparu adnoddau priodol ar gyfer “gwasanaeth uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar y plentyn sydd yn hyrwyddo lles plant.”
  • Penodi pobl yn llwyddiannus i uwch swyddi mewn adrannau, a’r effaith cadarnhaol y mae hyn wedi’i gael ar ddiwylliant, disgwyliadau a safonau.
  • Perthnasau gweithio cryf gydag asiantaethau eraill, a newidiadau cadarnhaol i wasanaethau cefnogi iechyd meddwl.

Cynnydd cadarnhaol

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant:

“Mae’r adroddiad yn cydnabod y cynnydd rydym wedi’i wneud yng ngofal cymdeithasol i blant, tra’n rhoi ffocws parhaus i ni ar y meysydd y mae angen i ni eu gwella.

“Un o’r prif bethau y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei gydnabod yw’r ymrwymiad ar draws y Cyngor i wella a darparu adnoddau priodol i wasanaethau. Mae hyn yn wedi chwarae rhan allweddol yn ein helpu i symud ymlaen.

“Serch hynny, mae yna waith i’w wneud eto. Er enghraifft, mae angen i ni edrych sut mae canlyniadau’n cael eu hystyried a sut y caiff gweithwyr cymdeithasol eu neilltuo i’r plant rydym ni’n eu cefnogi.

“Bydd ein cynlluniau gwella yn ein helpu i roi ffocws o’r newydd ar y meysydd yma.”

Mae AGC yn nodi bod “rhai gwelliannau wedi digwydd a fu’n arwain at ddatblygiadau mewn arferion a gwell ganlyniadau i blant.”

Arfer Da mewn Gwasanaethau Oedolion

Fe dynnodd yr arolwg sylw hefyd at nifer o feysydd cadarnhaol o waith ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yn cynnwys:

  • “Enghreifftiau da o ymateb effeithiol ac amserol i adroddiadau Diogelu Oedolion.”
  • Gwaith aml asiantaeth dda gyda sefydliadau partner.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion:

“Mae’r adroddid yn tynnu sylw at nifer o feysydd o arfer dda sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“Mae hefyd yn cadarnhau ar beth y mae angen i ni ganolbwyntio arno nesaf – yn cynnwys yr angen i greu mynediad gwell at wasanaethau fel therapi galwedigaethol a gofal cartref.

“Mae’r rhain yn bethau y byddwn ni’n canolbwyntio arnynt rŵan, a byddwn yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol wrth i ni symud ymlaen.”

Dywedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n falch bod adroddiad AGC wedi cydnabod ymrwymiad a chysegriad o’r prif swyddog Gofal Cymdeithasol a’r holl staff sydd wedi bod yn rhan i gymryd hwn ymlaen.

“Hoffwn hefyd cymryd y cyfle hwn i roi diolch i’r cynghorwyr a oedd yn cefnogi’r gyllideb, a fu’n galluogi ni i roi £10m yn fwy o gyllid i mewn i ofal cymdeithasol o fewn Wrecsam.

“Rwy’n cydnabod bod Wrecsam ar daith o welliannau a rhaid i ni ddal i warchod y rhai mwyaf bregus o fewn ein cymunedau.”