Unwaith eto, byddwn yn cefnogi’r Llynges Fasnach ar Ddydd GWENER, 2il o Fedi drwy chwifio’r Lluman Goch i anrhydeddu’r dynion a merched dewr a wasanaethodd yn y Llynges Fasnach yn ystod y ddau ryfel byd, a’ rhai sydd yn parhau i wasanaethu er mwyn sicrhau bod gennym gyflenwadau i gynnal ein gwlad.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

Dioddefodd y Llynges Fasnachol ei golledion gyntaf un yn yr ail ryfel byd pan gafodd llong masnach yr S.S Athenia ei suddo â thorpido gan golli 128 o deithwyr a chriw, oriau yn unig ar ôl datgan rhyfel.   Ers hynny, cydnabyddir y 3 Medi fel Diwrnod y Llynges Fasnach- er hynny byddwn yn chwifio’r Lluman Coch diwrnod yn gynharach ar 2il o Fedi’r flwyddyn yma gan fod y faner am newid i nodi gorymdaith Rhyddid y Fwrdeistref i’r Gymru Frenhinol ar 3ydd o Fedi.

Fel ‘cenedl ynys’ mae’r DU yn dibynnu ar forwyr y Llynges fasnach am 95% o’n mewnforion, gan gynnwys hanner y bwyd a fwytawn.  Mae gan y DU y diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop.  Mae 75% o’n hallforion (yn ôl cyfaint) yn cael eu cludo o borthladdoedd y DU, gyda rhai ohonynt yn cefnogi’r ymgyrch i annog llongau sy’n ymweld i ganu eu cyrn am 10am ar 3 Medi.

Bydd yna seremoni fer codi faner ar Ddydd Gwener am 11yb, tu allan i brif fynediad neuadd y dref.

Dywedodd y Cyng Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae’n bwysig i gydnabod y gwasanaeth ffyddlon ac i roi teyrnged i bawb sydd wedi gweithio, neu dal yn gweithio yn y Llynges Fasnach. Mae’u gwaith a’u gyfraniad anghredadwy at les ac economi ein cenedl. Ar ran Sir Wrecsam, Diolch mawr gennym oll.

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

TALU NAWR