Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Cyngor Wrecsam eich angen chi!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae Cyngor Wrecsam eich angen chi!
ArallY cyngor

Mae Cyngor Wrecsam eich angen chi!

Diweddarwyd diwethaf: Medi 7, 2022 11:46 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Young person
RHANNU

Os ydych chi newydd orffen yn yr ysgol neu’r coleg, neu os ydych chi ar fin camu i fyd gwaith a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf, pam na ymunwch chi â Chyngor Wrecsam fel prentis?

Cynnwys
  • Eisiau gwybod mwy?
  • Agor drysau
  • Sut i ymgeisio

Mae yna ystod enfawr o swyddi a gyrfaoedd yn y cyngor, a gall prentisiaeth fod yn ffordd wych o gychwyn.

Fe allwch ddysgu sgiliau wrth weithio, ennill cyflog a chymryd y camau cyntaf tuag at yrfa o’ch dewis.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/service/prentisiaethau”]YMGEISIWCH NAWR[/button]

Eisiau gwybod mwy?

Mae gennym ni brentisiaethau cyffrous newydd mewn ystod o wasanaethau gan gynnwys:

  • Gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar
  • Cyllid a TGCh
  • Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Digidol
  • Tai
  • Gofal Cymdeithasol
  • AD, Perfformiad a Gwelliant
  • Economi a Chynllunio

Fe gewch brofiad gwaith amrywiol a gwerthfawr a llawer o gefnogaeth gan gydweithwyr sy’n awyddus i’ch helpu i gychwyn eich gyrfa mewn llywodraeth leol.

Fe fyddwch yn gallu gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.

Mae prentisiaethau yn para am ddwy flynedd ac yn aml fe allant arwain at ragor o gyfleoedd o ran gyrfaoedd yn y cyngor.
Cymrwch eich cam cyntaf heddiw.

Agor drysau

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol:

“Rydym eisiau i fwy o bobl ystyried gyrfaoedd mewn llywodraeth leol, ac rydym yn llawn cynnwrf o fod yn cynnig y cyfle hwn.

“Fe all y camau cyntaf hynny i fyd gwaith fod yn anodd a dryslyd, ond mae prentisiaeth yn fan cychwyn gwych.

“Byddwch yn cael profiad gwaith a bywyd gwerthfawr, byddwch yn ennill cyflog ac yn gweithio tuag at gymwysterau a fydd yn eich helpu gyda’ch gyrfa yn y dyfodol.

“Efallai eich bod newydd orffen yn yr ysgol neu’r coleg a’ch bod yn ystyried eich cam nesaf, neu efallai eich bod yn cychwyn ym myd cyflogaeth am resymau eraill.

“Beth bynnag fo’r rheswm fe fyddai prentisiaeth yn ddewis gwych – gan agor llawer o ddrysau i chi a rhoi’r cyfle i chi i gyrraedd eich llawn botensial a chyflawni eich dyheadau.

“Mae hefyd yn ffordd wych i ni i ddarganfod talent newydd a recriwtio pobl gyda’r sgiliau a’r agwedd gywir i ddarparu gwasanaethau allweddol ar gyfer pobl Wrecsam.”

Sut i ymgeisio

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Medi 9 (2022), felly peidiwch ag oedi. Ymgeisiwch nawr er mwyn dechrau ym mis Hydref.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/service/prentisiaethau”]YMGEISIWCH NAWR[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol financial hep Mae cymorth ariannol ar gael i fwy o ddysgwyr yn Wrecsam
Erthygl nesaf Social services Adroddiad yn nodi cynnydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English