Mae Cyngor Wrecsam yn parhau i wneud gwelliannau i wasanaethau cymdeithasol plant.
Ym mis Chwefror eleni, cododd Arolygiaeth Gofal Cymru bryderon am wasanaethau plant yn Wrecsam, gan ddweud bod angen i ni fod yn fwy cyson yn ymateb i anghenion plant.
O ganlyniad, fe wnaethom weithredu ar unwaith:
- Fe wnaethom ddyrannu £1miliwn yn ychwanegol i helpu i sicrhau bod gan yr adran yr holl adnoddau yr oedd eu hangen.
- Fe wnaethom adeiladu ar waith y ‘Bwrdd Gwelliannau Cyflym’ – sydd yn cynnwys ein Prif Weithredwr, uwch gynghorwyr. ac uwch reolwyr – trwy sefydlu tîm cefnogi i roi’r gallu i’r bwrdd weithredu’r newidiadau angenrheidiol, ac i fonitro cynnydd a symud ymlaen â newid.
Ym mis Hydref, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru archwiliad i edrych ar y cynnydd sydd wedi cael ei gyflawni.
Mae’r adroddiad arolygu bellach wedi cael ei rannu gyda’r Cyngor, ac mae’n nodi cynnydd sylweddol, gyda rhagolygon da ar gyfer gwelliant parhaol y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae’r adroddiad arolygu yn rhoi adborth cadarnhaol am y gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn.
“Er enghraifft, mae’n sôn sut mae cyllid ychwanegol yn ein helpu i recriwtio i swyddi gwaith cymdeithasol allweddol, a sut mae gweithio’n well rhwng gweithwyr, cynghorwyr a phartneriaid yn cael effaith gadarnhaol.
“Mae yna gryn waith i’w wneud eto, ac fe hoffai Arolygiaeth Gofal Cymru weld mwy o gysondeb yn rhywfaint o’n gwaith cymdeithasol, ond mae’r adroddiad yn dweud ein bod yn gwneud cynnydd mor gyflym ag sy’n bosibl ac yn symud i’r cyfeiriad cywir…mae hynny’n galonogol iawn.
“Byddwn yn parhau i weithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru dros y misoedd sydd i ddod er mwyn i ni adeiladu ar y camau cadarnhaol yma.”
Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Rhoddodd Arolygiaeth Gofal Cymru adborth am welliannau i ofal cymdeithasol i oedolion ers eu harchwiliad diwethaf yn 2018, yn cynnwys lleihau rhestri aros ar gyfer rhai gwasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae yna feysydd lle mae angen i ni wneud gwelliannau, yn cynnwys sut rydym ni’n gweithio gyda’r sector iechyd i’w gwneud hi’n haws i bobl gael gafael ar wasanaethau mewn un lle.
“Serch hynny, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cydnabod y cynnydd sydd wedi cael ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddweud bod diogelu oedolion yn Wrecsam yn effeithiol, a bod arferion gwaith cymdeithasol yn dda ar y cyfan.
“Mae’n galonogol iawn ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio’n galed i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol effeithiol i oedolion ar draws y fwrdeistref sirol.”
Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru.
CANFOD Y FFEITHIAU