Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Agor ac Ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Plastic Free July - reusable water bottle
Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Agor ac Ailgylchu
Y cyngor

Agor ac Ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: 2017/12/15 at 12:20 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Agor ac Ailgylchu
RHANNU

O focsys a phecynnau eich siopa Nadolig ar-lein i agor anrhegion ar fore diwrnod Nadolig, mae’r Nadolig yn golygu bod llawer mwy o lawer o bapur, cardfwrdd a phecynnau!

Cynnwys
Wyddoch chi?Newidiadau casglu sbwriel…

Ond yn hytrach na’i roi i gyd mewn bag bin arferol, pam na wnewch chi ailgylchu? O bapur lapio i duniau bisgedi, gallwch ailgylchu’r rhan fwyaf o’ch gwastraff dros y Nadolig.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Os oes gennych wastraff bwyd hyd yn oed, rhowch o yn eich cadi bwyd. Ac i goroni’r cyfan…mae’r holl wastraff bwyd yn troi i gompost sy’n gallu cael ei gasglu

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

yn rhad ac am ddim gan breswylwyr Wrecsam wrth ddefnyddio un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Bryn Lane, y Lodge neu Plas Madoc!

https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2017/12/Wrap_Wrapping-Santa_Glitter-Welsh_P1V1.mp4

 

Wyddoch chi?

Eich bod yn gallu ailgylchu’r rhan fwyaf o wastraff y cartref dros y Nadolig, yn cynnwys:

  • Tuniau bisgedi/melysion mawr
  • Papur Lapio (Ond nid y math metel na ffoil tun)
  • Amlenni a Chardiau Nadolig
  • Bagiau anrhegion Papur/cardfwrdd (tynnwch unrhyw handlenni nid oes modd eu hailgylchu)
  • Y Cadi Bwyd ar gyfer unrhyw sbarion bwyd
  • Gellir mynd â Goleuadau Nadolig sydd wedi torri/diangen i unrhyw dri o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Os oes gennych fwy o ailgylchu dros gyfnod y Nadolig, gallwch roi bocsys neu fagiau casglu ychwanegol allan i’w casglu.  Gwahanwch eich deunydd ailgylchu i gyd fel yr arfer ond peidiwch â defnyddio bagiau bin du gan na fydd deunydd yn y bagiau hyn yn cael eu casglu. Gallwch blygu cardfwrdd ychwanegol a’i osod wrth ymyl bocsys/trolis (ond peidiwch â’i roi yn y bin gwastraff gwyrdd).

Dywedodd y Cyng. David. A Bithell, arweinydd arweiniol amgylchedd a chludiant, “Mae ffigurau ailgylchu Wrecsam yn parhau i gynyddu sy’n wych. Y ffigur ailgylchu/ailddefnyddio/compostio ar gyfer 2016/17 oedd 68.73% a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i gyrraedd y ffigur hwn. Yn ystod cyfnod y Nadolig bydd llawer mwy o ddeunydd y gellir eu hailgylchu ac rydym yn gofyn i bobl feddwl ddwywaith cyn ei roi yn y bin gwastraff cyffredinol.”

https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2017/12/Wrap_Wrapping-Santa_Scrunches-Welsh_P1V1.mp4

Newidiadau casglu sbwriel…

Bydd newidiadau i ddyddiadau casglu sbwriel ac ailgylchu dros y Nadolig.  Caiff preswylwyr eu hatgoffa i wirio dyddiadau casglu sbwriel dros gyfnod y Nadolig gyda newidiadau yn digwydd rhwng 23 Rhagfyr a 6 Ionawr.

Rydym yn gofyn yn arbennig i bobl gyda’u diwrnod casglu sbwriel arferol ar ddiwrnod Nadolig i gofio rhoi eu biniau a’u hailgylchu allan 2 ddiwrnod yn gynt, sef dydd Sadwrn 23 Rhagfyr. Ar ôl Rhagfyr 26 bydd diwrnodau casglu biniau i gyd ddiwrnod yn hwyrach (yn cynnwys casgliadau sy’n digwydd ar ddyddiau Sadwrn). Bydd casgliadau arferol yn ailddechrau ar ôl 6 Ionawr.

Peidiwch byth â  methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

COFIWCH EICH BINIAU

Rhannu
Erthygl flaenorol street pastors Gofalu, Gwrando, Helpu. Cyfarfod â Gweinidogion Stryd Wrecsam
Erthygl nesaf Diweddariad 17.12.17 – D Jones & Sons yn Rhoi’r Gorau i Fasnachu Heddiw Diweddariad 17.12.17 – D Jones & Sons yn Rhoi’r Gorau i Fasnachu Heddiw

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg Gorffennaf 25, 2025
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 25, 2025
Plastic Free July - reusable water bottle
Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 25, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor Gorffennaf 25, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam

Gorffennaf 25, 2025
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell

Gorffennaf 24, 2025
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lleY cyngor

Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Gorffennaf 23, 2025
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 

Gorffennaf 23, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English