Mae cais cymhellol wedi cael ei wneud i Gaer a Gogledd Cymru ddod yn gartref i’r darlledwr.
Eisoes, mae’r cartref ar y sgrin i raglen Channel 4, Hollyoaks , Caer – ynghyd â’i gymydog Wrecsam – bellach yn y ras i groesawu pencadlys cenedlaethol y darlledwr gyda chyflwyniad cryf.
Mae’r darlledwr cenedlaethol yn symud 300 o’i 800 o staff o’r brifddinas i dri lleoliad newydd mewn gwahanol leoliadau ledled y DU fel rhan o’i gynllun 4.
Mae dwy ardal Caer a Wrecsam wedi uno i annog Channel 4 i sefydlu ei bencadlys newydd yn y maes trawsffiniol unigryw hwn.
Mae’r cynnig gan ddwy wlad amrywiol yn seiliedig ar y berthynas waith agos rhwng Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ASau, busnesau a’r gymuned ehangach ar y ddwy ochr i’r ffin.
- Mae diwylliannau a ffyrdd o fyw o bob math yn ein hardal ni sy’n cynrychioli amrywiaeth Prydain fodern.
- Mae’r cynnig yn cyflwyno neges o undeb ac yn rhoi addewid bod y symud wirioneddol yn gynllun fydd ar gyfer pawb o’r DU
Dewis o swyddfeydd unigryw, o ansawdd uchel, sydd ag offer digidol sy’n gallu cael eu teilwra i anghenion mwy penodol. - Ardal gafodd ei nodi fel un o’r lleoedd gorau i fyw ynddi yn y DU gyda safonau byw uchel, ysgolion gwych a nifer fawr o atyniadau.
- Lleoliad strategol yng nghalon y DU gydag economi hyfyw sy’n uchel ei barch o ran iechyd, lles a hapusrwydd.
- Cartref i rai o raglenni mwyaf ym mhortffolio Channel 4.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae hon yn enghraifft o ddwy wlad – a dau gyngor cyfagos – yn dod at ei gilydd i gynnig cyfle unigryw i un o gwmnïau mwyaf arloesol y DU.
“Mae gan Wrecsam gronfa ddofn o ddoniau ar draws ei choleg, ei phrifysgol a’r sectorau creadigol, ac mae’n lle gwirioneddol gyffrous i bobl a busnesau creadigol ar hyn o bryd.
A thrwy uno â’n cymdogion yng Nghaer, gallwn roi cynnig unigryw a llawer mwy pwerus i Channel 4 – gan roi mwy o gyfleoedd i ni fod yn llwyddiannus a chyflawni canlyniad y gall Wrecsam a Chaer elwa ohono.”
Bydd y darlledwr yn sefydlu ei hun mewn tri lleoliad ledled y DU, pencadlys a dau ganolbwynt creadigol pellach. Mae’r darlledwr wedi addo gwario 50 y cant o’i arian cynnwys yn y rhanbarthau. Mae’n amcangyfrif y bydd 3,000 o swyddi cynhyrchu yn cael eu hategu gan y busnes newydd.
Dywedodd Chris Matheson, AS Caer: “Roeddwn i eisoes wedi ysgrifennu at benaethiaid Channel 4 yn eu gwahodd i ystyried Caer, ac mae ein cynnig wedi cael ei gryfhau’n anfesuradwy wrth uno â Gogledd Cymru. Mae Caer a Gogledd Cymru yn gweddu’n berffaith â chenhadaeth Channel 4 i fod yn arloesol a pheidio â gwneud y pethau amlwg fel mynd i un o’r dinasoedd mwy.
“Bydd ein hardal yn hawdd i’w gwerthu i staff Channel 4, gyda’n hysgolion gwych, ein lleoliad canolog a’n cysylltiadau cludiant, ac am ein bod wedi’n cydnabod fel un o’r lleoedd gorau i fyw ynddo. Drwy gyfuno hynny gyda’n sector creadigol a diwylliannol deinamig sy’n ehangu, a’n cysylltiadau cryf gyda Channel 4, rydym ni’n credu bod gennym gynnig pwerus iawn ar gyfer Channel 4 a’i weithwyr.”
Dywedodd y Cynghorydd Samantha Dixon, Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer: “Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i Wrecsam a Chaer. Credwn bod gennym gymaint i’w gynnig i Channel 4, a allai elwa o sefydlu yn un o ranbarthau gorau’r wlad.
“Mae gan Gaer gysylltiadau agos â Channel 4. Mae’r ddinas yn gartref i’r rhaglen The Secret Life of the Zoo, a enwebwyd am Wobr Bafta, ac mae hefyd yn gartref i Hollyoaks. Y rhaglen boblogaidd hon yw rhaglen fwyaf Channel 4 a gomisiynir gan Wledydd a Rhanbarthau, ac rydym wedi croesawu’r cast a’r criw sydd wedi ffilmio ledled y ddinas dros y blynyddoedd.
“Mae cyfoeth o ddoniau creadigol yma yng Nghaer a Gogledd Cymru i Olygyddion Comisiynu Rhaglenni’r darlledwr ddewis ohonynt. Bydd atyniad byw yn ein rhanbarth a’r seilwaith lleol cadarn sydd â chysylltiadau â’r rhwydwaith cludiant yn denu’r doniau gorau i weithio yn Channel 4.”
Dywedodd Ian Lucas, AS Wrecsam: “Mae gennym gyfle i ddod â Channel 4 i’n cymuned trawsffiniol, unigryw yng Nghaer a Gogledd Cymru. Mae’r cynnig gan ddwy wlad amrywiol ac yn seiliedig ar y berthynas waith agos a ddatblygwyd yn y blynyddoedd diwethaf gan gynghorau, busnesau a’r gymuned ehangach ar y ddwy ochr i’r ffin.
“Mae gennym sector creadigol lewyrchus gydag artistiaid o amgylch Caer, Wrecsam a Bangor, ac rydym ni eisiau i Channel 4 dorri’r patrwm, fel y mae wedi’i wneud yn y gorffennol, drwy symud i ranbarth ddeinamig, sy’n symud yn ei flaen.”
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR