Rydym yn chwilio am ddau aelod annibynnol ar gyfer ein Pwyllgor Safonau ond er mwyn bod yn gymwys dylech allu ateb ydw/gallwn/oes i’r holl gwestiynau canlynol:
- Ydych chi’n dda am wrando?
- Ydych chi’n chwilfrydig?
- Allech chi ystyried a chymharu tystiolaeth wrthdrawiadol a dod i ganlyniad rhesymol?
- Allech chi weithio mewn tîm?
- Oes gennych chi barch at eraill a dealltwriaeth a pharch at werthoedd moesegol cryf?
- Oes gennych chi uniondeb cymeriad ac o enw da?
Mae ein Pwyllgor Safonau yn chwarae rôl hanfodol wrth gynnal safonau moesegol uchel ar lefel Bwrdeistref Sirol a Chyngor Cymuned. Ei rôl yw cynghori, cynorthwyo ac arwain aelodau wrth iddynt fabwysiadu, monitro, gweithredu, gorfodi ac adolygu codau ymddygiad lleol amrywiol a chanllawiau moesegol eraill.
Penodir aelodau annibynnol am gyfnod rhwng 4 a 6 mlynedd a gellir eu penodi am un tymor pellach yn syth ar ôl i’r cyfnod hwn ddod i ben. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod o leiaf pedwar tîm y flwyddyn ac mae siawns o gynnal cyfarfodydd heb eu trefnu o flaen llaw gydag ychydig ddyddiau o rybudd.
Os cewch eich penodi byddwch yn gallu hawlio costau am fynychu cyfarfodydd.
Ydi hyn yn swnio fel rhywbeth i chi? Os felly, cysylltwch â’r Swyddog Monitro ar 01978 292202 neu’r Dirprwy Swyddog Monitro ar 01978 292221.
Mae ffurflen gais ar gael gan y Swyddog Monitro, Neuadd Y Dref, Wrecsam, LL11 1WF neu drwy anfon e-bost at y Swyddog Monitro. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Gorffennaf 2019.
Yn anffodus bydd rhai pobl yn anaddas i fod yn Aelod Annibynnol.
- Cynghorydd neu swyddog mewn gwasanaeth (neu eu cymar neu bartner sifil), aelod o Awdurdod Tân neu Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Gynghorydd Cymuned/Tref
- Cyn-gynghorydd neu gyn-swyddog, aelod o’r Awdurdod Tân neu Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Gynghorydd Cymuned/Tref neu wedi gadael y swydd am o leiaf blwyddyn.
- Yn weithgar mewn gwleidyddiaeth leol neu genedlaethol
- Wedi ymdrin â’r Cyngor yn sylweddol yn y gorffennol sydd yn cyfaddawdu didueddrwydd
- Gyda pherthynas agos ag unrhyw aelod neu swyddog o’r Cyngor
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN