A yw busnesau yn Wrecsam yn gwneud y defnydd gorau o’r iaith Gymraeg? Allen nhw feithrin cysylltiadau cryfach gyda’u cwsmeriaid drwy ddefnyddio’r Gymraeg?
Mae Cyngor Wrecsam yn cynnal arolwg, a fydd ar gael i fusnesau ar draws y fwrdeistref sirol, i weld pa ddefnydd maen nhw’n eu gwneud o’r Gymraeg, a p’un a ydynt am gael hyfforddiant pellach yn y Gymraeg.
Unwaith y bydd yr arolwg wedi’i gwblhau, bydd y cyngor yn ystyried cyflwyno cynllun “Cefnogi’r Gymraeg”, a fyddai’n cydnabod busnesau sy’n awyddus i gefnogi’r Gymraeg.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Datblygwch eich cysylltiadau â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg
Gall y Gymraeg fod yn fudd defnyddiol i fusnesau bach sy’n masnachu’n lleol, gan fod cynnig gwasanaeth dwyieithog yn gwella ansawdd eu gwasanaeth cwsmeriaid, a gall helpu i feithrin teyrngarwch cwsmer pwysig.
Mae Nigel Jones, Cigydd ME Evans Ltd, sydd â’i fusnes ym Marchnad y Cigydd ar y Stryd Fawr, eisoes wedi gweld manteision cael siaradwr Cymraeg ar ei dîm.
Meddai Mr Jones: “Mae gen i un aelod o staff sy’n siarad Cymraeg sy’n gweithio ar ddydd Sadwrn, ac mae gennym gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg a ddaw i mewn ar ddydd Sadwrn yn arbennig i siarad â’r aelod hwnnw o staff – a bydd archebion yn codi o ganlyniad.”
Mae’r Gymraeg yn “adnodd wrth gefn”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Chymuned: “I lawer o fusnesau, gallai’r Gymraeg fod yn adnodd wrth gefn a fyddai’n eu helpu i feithrin cysylltiadau cryfach â’u cwsmeriaid.
“Fel y nododd Mr Jones, ME Evans Ltd, bydd rhai busnesau yn gweld cynnydd mewn gwerthiant diolch i’r cysylltiadau cryf a ddatblygir gan staff sy’n siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.
“Ac mae busnesau eraill yn gwneud defnydd da o’r Gymraeg wrth helpu i adeiladu eu brand lleol; yn arbennig os ydynt yn defnyddio cynnyrch sy’n tarddu o Gymru.
“Mae eraill wedi mynegi diddordeb mewn rhoi hyfforddiant Cymraeg sylfaenol i staff er mwyn gallu cyfarch cwsmeriaid yn eu mamiaith.
“Fel rhan o’n hymrwymiad i weld y defnydd o’r Gymraeg yn cynyddu yn Wrecsam, rydym am weld a allwn helpu cymaint o fusnesau â phosibl i gychwyn sgwrs â’u cwsmeriaid yn Gymraeg.
“Byddwn yn annog unrhyw berchnogion busnes sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr arolwg.”
I gael rhagor o wybodaeth neu i lenwi’r arolwg, ewch i’r wefan yma.
LLENWCH YR AROLWG YMA