Wyddech chi eich bod chi’n gallu ailgylchu eich tecstilau? Rydyn ni’n hapus i fynd ag unrhyw ddarnau da o ddillad oedolion a phlant, gan gynnwys rhai sydd wedi gwisgo ac esgidiau – mae’n help os ydych chi’n clymu’r parau.
Gallwn fynd â dillad gwely, duvets, gobenyddion, eitemau gwlyb neu wedi’u baeddu neu bethau fel carpedi.
Y cyfan sydd raid ei wneud yw eu rhoi mewn bag plastig – ond nid bag bin – a’i adael allan gyda’ch bin a’ch gwastraff ailgylchu.
Gallwch ddarllen mwy yma.
Rydyn ni hefyd eisiau diolch yn fawr i bawb sydd eisoes yn ailgylchu gan fod newyddion yn dangos ein bod ni yn yr ail safle drwy Gymru o ran ailgylchu, gydag ychydig dros 71% rhwng mis Ebrill a Medi’r llynedd. Rydyn ni’n disgwyl ein ffigyrau ailgylchu ar gyfer y chwarter diwethaf, ac er bod llai o wastraff gwyrdd yn y chwarter hwn bob tro, rydyn ni’n gobeithio aros yn yr ail safle.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Cludiant a’r Amgylchedd: “Mae ein trigolion ni’n gwneud yn wych ac maen nhw’n frwd dros ailgylchu. Roedd hyn yn amlwg yn ddiweddar wrth i’n cerbydau lenwi’n sydyn iawn gan fod cymaint o ailgylchu ar ôl y ’Dolig. Fe fyddwn ni’n parhau i wella lle bo modd ac mi fyddwn yn annog mwy o’n trigolion i ddefnyddio’r gwasanaeth tecstilau sydd ar gael. Rydyn ni wedi dod yn bell ers 2002 pan oedd llai na 4% o’n gwastraff yn cael ei ailgylchu ac mae’r ffigyrau’n profi beth allwn ni ei wneud pan mae pawb yn cydweithio at yr un nod. Diolch yn fawr i bawb am ein helpu i gyrraedd cyfradd ailgylchu mor dda.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT