Rydym yn falch o roi gwybod ichi fod cylchfan Parc Manwerthu’r Gororau – a elwir hefyd yn gylchfan Tesco i gael ei ail-wynebu fel rhan o’n rhaglen ail-wynebu arfaethedig.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda busnesau’r ardal i darfu cyn lleied â phosib arnyn nhw a chytunwyd y bydd gwaith yn digwydd dros nos am 6 noson gan ddechrau ddydd Sul, 13 Hydref.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bydd y gylchfan ar gau i draffig rhwng 8pm a 6am ar y nosweithiau hyn ond gallwch barhau i gael mynediad i Barc Manwerthu’r Gororau trwy Ffordd y Cilgaint a diolchwn i Tesco am wneud hyn yn bosibl. Os nad oes angen i chi fynd i’r parc Manwerthu yn ystod yr amseroedd hyn, ceisiwch osgoi’r ardal. Bydd pob busnes yn parhau ar agor ar eu hamseroedd agor arferol trwy gydol y gwaith.
Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal bob amser.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r ardal hon wedi bod yn destun pryder ers cryn amser ac rydym yn ymwybodol yn dilyn galwadau a sylw yn y cyfryngau cymdeithasol bod gyrwyr eisiau i’r wyneb gael ei wella yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae’n gylchfan brysur yn gwasanaethu parc manwerthu sy’n cynnwys archfarchnad a gorsaf betrol 24 awr, ac mae’n anochel y bydd yn achosi rhywfaint o aflonyddwch. Gofynnwn am eich amynedd yn ystod y gwaith ac edrychwn ymlaen at gylchfan wedi’i hail-wynebu’n llwyr.”
Need help with school uniform costs? Find out if you’re eligible.
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION