Gan fod llawer o bobl yn gwerthfawrogi ein rhestr o awgrymiadau defnyddiol i ailgylchu gwastraff bwyd, roedden ni’n meddwl rhoi rhestr o awgrymiadau defnyddiol i chi i ailgylchu plastig hefyd.
Wedi’r cyfan, plastig sy’n drysu pobl fwyaf wrth ailgylchu. Os na wnaethoch chi weld ein canllaw ni ar ba blastigion sy’n gallu cael eu hailgylchu yn Wrecsam, cymerwch gip.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Dyma awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi i fod yn wych am ailgylchu 🙂
Awgrymiadau defnyddiol
• Gofynnwch “ydw i’n gallu ailgylchu hwn?” Mae’n siŵr mai’r awgrym gorau y gallwn ni ei rhoi i chi ydi gofyn “ydw i’n gallu ailgylchu hwn?” cyn rhoi rhywbeth plastig yn y gwastraff cyffredinol. Mae’r wybodaeth am hyn ar gael ac yn Wrecsam mae posib’ ailgylchu llawer o blastigion. Cymerwch gip ar ein canllaw am fwy o wybodaeth. Mae hynny’n ein harwain ni at yr awgrym nesaf…
• Cofiwch am ein canolfannau ailgylchu. Os nad oes posib’ ei ailgylchu gartref, ydych chi wedi meddwl am ein canolfannau ailgylchu? Mae posib’ ailgylchu llawer o blastigion sydd ddim yn ailgylchadwy gartref yma. Felly, mi allwch chi ddod â’ch holl blastig caled, fel dodrefn gardd, potiau planhigion, casys CD/DVD ac ati yma i gael eu hailgylchu 🙂
• Gwasgwch eich poteli plastig. Peth bach, syml allwch chi ei wneud i’n helpu ni ydi tynnu’r caeadau oddi ar eich poteli plastig a’u gwasgu nhw cyn eu hailgylchu. Mae’n well i ni ac mi fydd yn creu mwy o le yn eich bocs ailgylchu. Ond cofiwch bod posib’ ailgylchu’r caeadau hefyd! Rhowch nhw yn eich bocs ailgylchu ac fe wnawn ailgylchu’r rheini hefyd 🙂
• Ceisiwch ddefnyddio llai o blastig. Mae adegau pan mai plastig yw’r unig ddewis, ond beth os oes dewisiadau eraill? Gofynnwch, “ydw i wir angen gwelltyn plastig?” Beth am ddefnyddio cyllell a fforc bren (sy’n gallu cael eu hailgylchu fel gwastraff bwyd) yn lle rhai plastig? Neu hyd yn oed ddewis can o ddiod yn lle potel blastig o ddiod, gan fod posib’ ailgylchu can alwminiwm dro ar ôl tro, yn wahanol i blastig. Mae’r camau bach allwn ni eu cymryd i ddefnyddio llai o blastig i gyd yn help 🙂
• Mae glanach yn wyrddach. Wrth ailgylchu eich poteli, cartonau, tybiau a photiau plastig, ydych chi’n gwneud yn siŵr nad oes bwyd a diod ar ôl arnyn nhw? Mae gwneud hyn yn golygu bod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer gwell yn cael ei anfon i gael ei ailgylchu’n gynnyrch newydd. Ar ôl gorffen golchi’r llestri, cyn tynnu’r plwg, golchwch eich plastig yn sydyn yn y dŵr 🙂
Ffeithiau am ailgylchu: Mae golchi eich potiau, tybiau, três a photeli plastig cyn iddynt gael eu casglu yn golygu fod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer uwch yn cael ei anfon i'w ailgylchu i greu cynhyrchion newydd. pic.twitter.com/oAFmysINcp
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 3, 2019
• Ailddefnyddio. Ffordd dda o leihau faint o blastig untro rydych chi’n ei ddefnyddio ydi bod â phethau i’w hailddefnyddio. Yn hytrach na phrynu potel o ddŵr bob dydd, beth am gael potel i’w hailddefnyddio a’i llenwi cyn mynd i rywle? Fe fyddwch chi’n helpu’r amgylchedd a’ch waled/pwrs hefyd. A sôn am ailddefnyddio, ydych chi wedi clywed am y siop ailddefnyddio?
Does neb yn berffaith…cymerwch ein cwis ailgylchu hwyliog
Mae’n wir – does neb yn berffaith…ac er y gallwn ymdrechu i fod yn arch-arwyr ailgylchu, mae’n debygol y gallai pawb wneud ychydig newidiadau i wneud yn well dros Wrecsam.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU