Mae pobl ifanc yn Wrecsam wedi bod yn troedio’r trefi wrth baratoi am hanner marathon Caerdydd ar 1 Hydref.
Yn ddiweddar, fe gwblhaodd Yasmin Sides, Jade Griffith a Sam Sides sesiwn hyfforddi 10 cilomedr gyda’u mentor, Gareth “Alfie” Thomas, yn barod am y digwyddiad mawr.
Daethant at ei gilydd ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd – cartref Gleision Caerdydd – ac roedd y paratoadau’n cynnwys derbyniad croesawu ar gyfer y rhedwyr a chyfle i sgwrsio â thimau eraill a sgwrs gan Gareth Thomas a’r hyfforddwr James Thie, a soniodd sut y dylai’r rhedwyr dreulio’r wythnosau olaf o hyfforddi.
Bu iddynt hefyd gyfarfod James Baulch, yr athletwr gwibio sydd wedi ennill medal aur a’r cyflwynydd teledu.
Yna, cafodd y tîm sesiwn gynhesu cyn rhedeg 10 cilomedr o amgylch Parc Bute.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae’r sesiwn hyfforddi nesaf gyda Run4Wales mewn ychydig wythnosau pan fydd y bobl ifanc yn rhedeg 10 cilomedr arall yn Ninbych.
Mae’r llun yn dangos Yasmin, Jade a Sam gydag Alfie ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd.
Bydd y tri’n rhedeg i godi arian at elusen; Sam yn rhedeg ar gyfer Tŷ Gobaith, Jade yn rhedeg ar gyfer y Gunjur Project, lle roedd hi wedi bod yn gynharach eleni, a bydd Yasmin yn rhedeg ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI