Ydych chi’n chwilio rywbeth creadigol i’w wneud yn ystod gwyliau? Beth am cymryd ran yn ein Dosbarth Meistr Ysgol Gelf Haf!
Bydd siawns i adeiladu offerynnau cerdd ac i fod yn greadigol gyda phrintio lino, peintio olew a ddefnyddio metel i adeiladu eich darnau eich hun.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Dywedwch fwy!
- Portffolio yw enw ein gweithdai datblygu celfyddydol. Fe’u hanelir at unrhyw un 14-18 oed sydd â diddordeb yn y celfyddydau.
- Mae pob gweithdy yn costio £20 ac yn para am 2 ddiwrnod (10.30am-4.30pm).
- Yn ystod y sesiynau, bydd ein harlunwyr Portffolio yn rhannu eu harbenigedd ac yn cyflwyno technegau a syniadau newydd.
- Bydd y sgiliau a ddysgir yn cefnogi datblygiad a’r portffolio gwaith personol tuag at astudiaethau Celf a Dylunio.
Dewiswch eich dosbarth
Gweithdy tunplat (gyda Andy Hazel) Gorffennaf 24 a 25
Dysgwch sut i dorri, tunio a thynplat solder o hen dunedi bisgedi i wneud pryfed metel bach, blodau, ceir, llongau neu ddeinosoriaid gan ddefnyddio offer llaw syml.
Creu Paent fel yr hen feistri
Malu pigment olew a sialc. Bydd hefyd siawns i edrych ar hanes paent olew i archwilio posibiliadau ein paentiau wedi’u gwneud â llaw. O baentio impasto a gwydro, byddwn yn profi gwahanol dechnegau ar ein peintiad ein hunain.
Ffotograffig encaustic
Proses celf gain hynafol sy’n amlygu printiau giclee mewn gwenyn gwenyn a resin.
Diwrnod 1: Ymweliad â Artstop Marple i weld stiwdios ac oriel gelf Pete a Tracy.
Diwrnod 2: Yn Nhŷ Pawb, gwnewch eich delwedd annisgwyl ar fwrdd pren.
Argraffu Lino a rhwymo llyfr
Edrych ar batrymau dylunio gwahanol i ddysgu sut mae patrymau dylunio’n ailadrodd. Yn dilyn ymlaen, bydd siawns i ddysgu i gerfio i mewn i flociau lino ac yna argraffu patrymau dylunio ar ffabrig a phapur yn barod i’w wneud i lyfrau artistiaid.
Adeiladu a pherfformiad 3d
Adeiladu masgiau ac offerynnau cerdd gan ddefnyddio technegau collage. Bydd siawns i greu berfformiad a gaiff ei dogfennu gan Datamosh. Bydd y ffilm a gesglir yn ystod y gwaith adeiladu a pherfformiad yn cael ei olygu fel bod gan bob cyfranogwr ffilm fer i’w chadw.
Diddordeb? Archebwch eich lle nawr!
I archebu lle ar unrhyw un o’r dosbarthiadau neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch portffoliowrecsam@gmail.com
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN