Cyllid ar gyfer y digwyddiad ar gael
Heddiw, rydym yn cyhoeddi arian o hyd at £1,000 ar gyfer grwpiau cymunedol neu unigolion i gynnal digwyddiad sy’n arddangos cymunedau a diwylliant Wrecsam fel rhan o #Wrecsam2025 (ein cais i fod yn Ddinas Diwylliant 2025)
Nid ydym eisiau rhoi gormod o fanylion am gynnwys y digwyddiad – wnawn ni adael i chi fod mor greadigol â phosib.
Dylai’r digwyddiad fod yn seiliedig ar themâu gweledigaeth Wrecsam ar gyfer bod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025
- Canolbwynt masnach a digwyddiadau yng Ngogledd Cymru
- Prifddinas Chwarae y DU
- Cartref pêl-droed Cymru
- Arweinwyr yn arloesi
- Iaith Gymraeg a threftadaeth
- Dathlu amrywiaeth diwylliannol
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau a Phartneriaethau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Wrth gynnal digwyddiadau cymunedol, gallwn arddangos y talent sydd gan Wrecsam, a dangos cefnogaeth ar gyfer y cais Dinas Diwylliant. “Mae yna frwdfrydedd a chwilfrydedd am y cais yn Wrecsam ar hyn o bryd, ac rydym eisiau datblygu hyn a chael gymaint o bobl â phosib i gymryd rhan a chefnogi’r cais.”
Ychydig fwy o sylwadau:
- Gallwch wneud cais am hyd at £1,000 i gynnal digwyddiad.
- Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau ar gyfer digwyddiadau ledled y sir.
- Mae’n rhaid i’r digwyddiad gael ei gynnal rhwng mis Ionawr a mis Mai 2022.
Nid yw arian yn cael ei warantu a bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu gan ein panel a fydd yn chwilio am greadigrwydd, gweledigaeth, effaith a darpar leoliadau digwyddiadau y ceisiadau a gyflwynwyd.
Os oes gennych ddiddordeb neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o’r tîm drwy anfon neges e-bost at Wrecsam2025@wrexham.gov.uk
Am fwy o wybodaeth ar ein cais #Wrecsam2025 i ddod yn Ddinas Diwylliant yn 2025 cliciwch yma