Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Carchar i Dwyllwr a barhaodd i droseddu ar ôl dau erlyniad llwyddiannus!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Carchar i Dwyllwr a barhaodd i droseddu ar ôl dau erlyniad llwyddiannus!
Y cyngor

Carchar i Dwyllwr a barhaodd i droseddu ar ôl dau erlyniad llwyddiannus!

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 20, 2021 3:44 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Jail
RHANNU

Ar ôl erlyniad diweddar gan ein Tîm Safonau Masnach, dedfrydwyd Tiffany Stanley o Danyfron i 6 mis o garchar yn Llys Ynadon Wrecsam.

Plediodd Stanley’n ddieuog i 17 trosedd gan gynnwys twyll, ond ar ôl ei hachos llys, fe’i cafwyd yn euog o bob trosedd.

Daeth yr achos i’r amlwg ar ôl i Wasanaeth Safonau Masnach y Cyngor, sy’n dod o fewn yr adran Gwarchod y Cyhoedd, gael nifer o gwynion am fusnes crefftau Stanley, yr oedd yn ei redeg dros Facebook.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Byddai Stanley’n cymryd archebion a thaliad ymlaen llaw am eitemau crefft cartref ar gyfer dathlu genedigaethau neu ben-blwyddi, ond weithiau i gofio digwyddiadau trasig fel marwolaeth plentyn ifanc.

Ni fyddai’r nwyddau’n cyrraedd fel y bwriad, a byddai hi’n rhoi esgusodion i ddechrau wrth i gwsmeriaid holi, ond os byddent yn parhau i holi, byddent yn cael negeseuon hynod o ymosodol a chas trwy Facebook.

Oherwydd mai dim ond trwy drosglwyddo arian i’w chyfrif banc yn uniongyrchol roedd modd talu Stanley, nid oedd gan ei chwsmeriaid lawer o ddewisiadau i gael iawndal, a thalodd llawer o gwsmeriaid am nwyddau na chafodd eu derbyn, heb unrhyw ffordd realistig o gael eu harian yn ôl.

Dywedodd Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, Roger Mapleson, “Dyma’r trydydd tro i ni erlyn Tiffany Stanley am yr un gweithgaredd yn union.

“Yr ail dro iddi gael ei chollfarnu, cafodd ddedfryd ohiriedig, ond parhaodd i fasnachu yn syth ar ôl ei chollfarn y tro hwnnw, ac nid oedd gennym ddewis ond erlyn am drydydd tro, a arweiniodd yn anochel at ei charcharu.

“Mae hi wedi twyllo ei chwsmeriaid trwy gymryd arian a methu â darparu’r nwyddau a archebwyd, ac wedi cyfuno hyn gydag ymddygiad ymosodol tuag atynt a’u sarhau dros gyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r math hwn o ymddygiad yn gwbl annerbyniol. Rydym wedi ceisio’n galed i ymgysylltu â Stanley ond fe fethodd â dderbyn unrhyw gyngor droeon, gan ein gorfodi i weithredu fel hyn a arweiniodd at eich charcharu.”

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol diogelu Cymru'r Nadolig yma Nodyn briffio ar Covid-19 – diogelu Cymru’r Nadolig yma
Erthygl nesaf Allech chi gynnal digwyddiad i’n helpu ni i hyrwyddo ein cais Dinas Diwylliant? Allech chi gynnal digwyddiad i’n helpu ni i hyrwyddo ein cais Dinas Diwylliant?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English