Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Allech chi fod yn bennaeth ein hysgol cyfrwng Cymraeg newydd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Allech chi fod yn bennaeth ein hysgol cyfrwng Cymraeg newydd?
Busnes ac addysg

Allech chi fod yn bennaeth ein hysgol cyfrwng Cymraeg newydd?

Diweddarwyd diwethaf: Medi 30, 2021 11:07 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Schools
RHANNU

Rydym yn gyffrous iawn wrth gyhoeddi ein bod yn chwilio am bennaeth i arwain ein hysgol cyfrwng Cymraeg mwyaf newydd, a fydd yn darparu addysg i blant rhwng 3 ac 11 oed.

Bydd yr ysgol, a leolir yn ardal Borras o ganol y dref, yn agor i ddisgyblion yn nhymor yr hydref 2022, ac rydym am i’n pennaeth newydd fod yn rhan o’r paratoadau fydd yn arwain i fyny at yr agoriad.

Allech chi fod yn bennaeth ein hysgol cyfrwng Cymraeg newydd?

Mae’r Corff Llywodraethol Dros Dro yn edrych i benodi arweinydd gyda gweledigaeth gadarn dros addysg Gymraeg o fewn y sir, a brwdfrydedd heintys fydd yn ein gallogi i dyfu fel ysgol dros y blynyddoedd nesaf.

Gallwn gynnig:

  • Adeilad newydd ei ailwampio i greu amgylchedd ddysgu symbylus a deniadol
  • Corff llywodraethol dros dro cefnogol a rhagweithiol
  • Cyfle prin i sefydlu ysgol newydd sbon, gan gynnwys penodi staff
  • Cyfle i fod yn rhan o rwydwaith lleol wrth i ni gydweithio i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam

Rydym yn chwilio am bennaeth sydd:

  • Wedi ei ysgogi ac wedi ymrwymo i ddatblygu a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn y gogledd ddwyrain
  • Yn ymarferydd rhagorol gyda hanes profedig o godi safonau a gweledigaeth glir o addysgu a dysgu o safon uchel i bawb
  • Yn gallu ysgogi, ysbrydoli ac ennyn hyder yng nghymuned yr ysgol, gan ddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • Yn fodel rôl cadarnhaol, yn gallu meithrin perthynas gadarnhaol gyda rhieni / gofalwyr / y gymuned leol
  • Wedi ei ysgogi ac wedi ymrwymo i ddatblygu potensial llawn pob plentyn drwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol, gan wneud dysgu yn brofiad hapus
  • Am arwain yr ysgol i weithredu’r cwricwlwm newydd a’r fframwaith ADY

Allech chi fod yn bennaeth ein hysgol cyfrwng Cymraeg newydd?
“Angerdd dros addysg”

Dywedodd y Cyng Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Mae hwn yn gyfle gwych i bennaeth wneud eu marc trwy helpu i ffurfio dyfodol ysgol newydd sbon. Os ydych chi’n gymwys, yn angerddol dros addysg, a’ch bod chi’n teimlo y gallwch arwain yr ysgol at lwyddiant, rydym yn edrych ymlaen at gael eich ffurflen gais wedi’i llenwi.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Iau, 13 Hydref.

Cynhelir y cyfweliadau ddydd Mercher, 10 Tachwedd.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, ewch i weld y swydd-ddisgrifiad yn llawn.

Neu os ydych chi’n barod i wneud cais, cliciwch ar y botwm isod.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/pages/vacancy.jsf?latest=01004755&language=cy “] GWNEUD CAIS AR GYFER Y SWYDD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Litter Picking Hubs Dysgwch fwy am ganolbwyntiau casglu sbwriel yn Wrecsam
Erthygl nesaf Trefnwyr FOCUS Wales yn derbyn cydnabyddiaeth ddinesig Trefnwyr FOCUS Wales yn derbyn cydnabyddiaeth ddinesig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English