Mae’r Dirprwy Maer, y Cynghorydd , y Cynghorydd Brian Cameron, wedi ymuno gyda dynion a merched ledled Wrecsam a Chymru i gefnogi Ymgyrch Rhuban Gwyn 2021.
Derbyniodd faner swyddogol Rhuban Gwyn yn gynharach heddiw. Codir y faner uwch ben Neuadd y Dref ar ddechrau’r ymgyrch ddydd Iau, 25 Tachwedd 2021, a bydd yn cyhwfan yno am 16 diwrnod. Caiff y balconi ei oleuo gan olau gwyn ar gyfer yr ymgyrch yn ogystal.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Nod yr ymgyrch yw dod â thrais yn erbyn merched i ben.
Mae’r Dirprwy Maer, y Cynghorydd, “Ers llofruddiaeth erchyll Sarah Everard yn gynharach eleni, mae yna lawer o ddynion wedi bod yn sefyll yn gadarn yn erbyn trais yn erbyn merched, ac ’rwyf yn falch o gael ymuno â hwy.
“Byddaf yn gwisgo’r rhuban gwyn gydol yr ymgyrch, yn arbennig pan fyddaf yn ymgymryd â’m dyletswyddau fel dirprwy Maer, a byddaf yn annog pawb ’rwy’n ei gyfarfod i wneud addewid i beidio byth â chyflawni trais yn erbyn merched, nac i’w esgusodi na chadw’n dawel amdano.”
“Ymunwch â mi i wisgo Rhuban Gwyn am yr wythnosau nesaf, a gweithredwch i sicrhau y gall ymgyrch #AllMenCan wneud ei ran i ddod â thrais yn erbyn merched i ben.”
Gwylnos Goleuni ar Grîn Llwyn Isaf
Gwahoddir y cyhoedd i ddod i Wylnos Oleuo yn Llwyn Isaf, nos Iau am 7pm. Gwisgwch ruban gwyn a defnyddiwch y golau ar eich ffonau symudol neu dortsh i ddangos eich cefnogaeth i’r ymgyrch i ddod â thrais yn erbyn merched a cham-drin domestig i ben am byth.
Gellwch ddarllen mwy am hyn yma.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL