Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwylnos Goleuni yn nodi Dechrau Ymgyrch Rhuban Gwyn 2021 #AllMenCan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwylnos Goleuni yn nodi Dechrau Ymgyrch Rhuban Gwyn 2021 #AllMenCan
Y cyngor

Gwylnos Goleuni yn nodi Dechrau Ymgyrch Rhuban Gwyn 2021 #AllMenCan

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 23, 2021 8:54 am
Rhannu
Darllen 4 funud
White Ribb
RHANNU

Bydd Ymgyrch Rhuban Gwyn eleni yn dechrau Dydd Iau (25 Tachwedd) a bydd yn nodi dechrau 16 diwrnod o weithgarwch a fydd yn amlygu a mynd i’r afael â cham-drin domestig.

Cynnwys
  • Ynglŷn ag Ymgyrch y Rhuban Gwyn
  • Mae help ar gael
  • Sut i Roi Gwybod am Gamdriniaeth

I nodi’r dechrau, byddwn yn cynnal “Gwylnos Goleuni” ar Grîn Llwyn Isaf am 7pm er cof am Sarah Everard a gafodd ei herwgipio a’i llofruddio wrth iddi gerdded adref yn Ne Llundain yn gynharach eleni.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Caiff digwyddiadau tebyg eu cynnal ym Mangor a’r Rhyl hefyd.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynychu gan wisgo rhubanau gwyn a defnyddio’r goleuadau ar eu ffonau symudol neu eu tortshis i ddangos eu cefnogaeth i roi diwedd ar drais yn erbyn merched a cham-drin domestig, am byth.

Caiff Balconi Neuadd y Dref ei oleuo am 7pm a bydd Baner y Rhuban Gwyn yn chwifio trwy gydol yr ymgyrch gyfan.

Disgwylir i’r digwyddiad bara 30 munud a bydd yn cynnwys darlleniad o gerdd gan oroeswr camdriniaeth.

Ynglŷn ag Ymgyrch y Rhuban Gwyn

White Ribbon UK yw’r elusen arweiniol sy’n gweithio gyda dynion a bechgyn i roi diwedd ar drais yn erbyn merched. Yn ystod Ymgyrch y Rhuban Gwyn eleni, bydd miloedd o bobl yn gweithredu a chodi ymwybyddiaeth er mwyn atal trais cyn iddo ddechrau.

#AllMenCan yw eu neges arweiniol eleni. Fe’i datblygwyd iddynt ym mis Mawrth, pan wnaeth llofruddiaeth erchyll Sarah Everard ddod â phrofiad merched o drais gan ddynion at flaen meddyliau pawb.

Arweiniodd at lawer o drafodaethau am ddynion yn gweithredu a gwneud safiad hefyd, ac mae llawer wedi mynd yn eu blaenau i wneud Addewid y Rhuban Gwyn a byddant yn gwisgo eu Rhubanau Gwyn i ddangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch.

Mae help ar gael

Byw Heb Ofn; mae Llinell Gymorth Cam-drin Domestig a Rhywiol Cymru Gyfan, wedi’i chynorthwyo gan Lywodraeth Cymru, yn darparu Llinell Gymorth 24/7 sy’n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, ffrindiau a theulu sy’n pryderu a gweithwyr proffesiynol sy’n chwilio am wybodaeth ac am gael eu cyfeirio.

Gallant gynnig help a chyngor rhad ac am ddim i:

  • Unrhyw un sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig
  • Unrhyw un sy’n adnabod rhywun sydd angen help. Er enghraifft, ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
  • Ymarferwyr sy’n ceisio cyngor proffesiynol

Mae pob sgwrs â Byw Heb Ofn yn gyfrinachol a bydd staff profiadol iawn wedi’u hyfforddi’n llawn yn ateb galwadau. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Byw Heb Ofn a’u manylion cyswllt, ewch i’w gwefan.

Sut i Roi Gwybod am Gamdriniaeth

Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig a bod trosedd wedi’i chyflawni, gallwch gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru trwy’r cyfleuster gwe-sgwrsio ar eu gwefan.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Mae’r rhif hwn yn wasanaeth 24 awr a dylech ei ddefnyddio dim ond mewn sefyllfaoedd pan fo: perygl i fywyd, defnydd, neu fygythiad uniongyrchol o ddefnydd o drais. Os ydych chi am siarad â rhywun y tu allan i’r heddlu i gael cyngor cyffredinol, cysylltwch â Byw Heb Ofn ar 080880 10 800.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol BorrowBox ‘Teitlau ‘No Queue’ o BorrowBox
Erthygl nesaf Magistrates Court Wrexham Law Dirwyo Landlordiaid Didrwydded yn dilyn erlyniadau llwyddiannus

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English