Allan o waith?
Os ydych yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, mae rhywun wrth law fydd yn cynnig cyngor un i un i’ch helpu i gael gwaith, addysg a hyfforddiant. Maent yn rhan o’r tîm Cymunedau ar gyfer Gwaith.
Cymerwch stori un cwsmer 17 oed, gafodd ei atgyfeirio i Cymunedau am Waith gan y tîm In2Change i Bobl Ifanc.
Roedd In2Change yn ei helpu i reoli ei gamddefnydd o sylweddau, ond gadawyd ef yn byw gyda diffyg hyder a hunan-barch isel yn gadael yr ysgol heb gymhwyster ffurfiol na phrofiad gwaith.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Fodd bynnag, roedd yn dal eisiau gweithio.
Felly, bu’n cyfarfod yn wythnosol gyda’r tîm Cymunedau am Waith a thrafod cwrs sgiliau sylfaenol yng Ngholeg Cambria. Ar ôl cwblhau’r cwrs a siarad mwy gyda’r tîm dechreuodd weld swyddi yr hoffai eu hystyried ac edrych ar sgiliau pellach y byddai eu hangen ar gyfer y math hynny o swyddi.
Yna llwyddodd i gwblhau hyfforddiant Iechyd a Diogelwch, Cymorth Cyntaf a Chodi a Chario yn ogystal â gwneud cwrs yn iTec i dderbyn ei gerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu a chwblhau Rhaglen Arloesi 12 wythnos gyda Groundwork.
Ar ôl datblygu ei sgiliau a’i hyder, paratôdd ei CV gyda chymorth y tîm a dechreuodd ymgeisio ar-lein ar gyfer swyddi.
Yna…llwyddiant…cafodd swydd fel cymhorthydd warws! Newyddion ardderchog.
Felly, gyda chymorth Cymunedau am Waith, Groundwork, In2Change a Choleg Cambria bu’n gweithio’n galed i oresgyn ystod o rwystrau a bod yn berson ifanc cyflogedig, hyderus.
Mae’r daith hon yn glod i’r timau, aelodau o’r teulu, ond yn bwysicach oll yr unigolyn perthnasol.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU